Ymchwil

Data

Pam ein bod yn cofnodi data ar blant y Lluoedd Arfog?

  • Data yw’r allwedd i ddeall effaith ffordd o fyw y Lluoedd Arfog ar blant y Lluoedd Arfog
  • Gall ysgolion fod wedi paratoi’n well i gefnogi plant y Lluoedd Arfog
  • Gellir gwneud cymariaethau o ran lefelau cyrhaeddiad rhwng plant y Lluoedd Arfog a phlant nad ydynt yn blant y Lluoedd Arfog
  • Gellir canfod patrymau o ran absenoldeb o'r ysgol
  • Gall awdurdodau lleol baratoi i gefnogi plant y Lluoedd Arfog o ran eu hiechyd meddwl a'u hanghenion o ran lles
  • Gall asiantaethau ddarparu cefnogaeth a nodi lle mae yna fylchau o ran darpariaeth
  • Gellir targedu adnoddau i gefnogi anghenion penodol mewn lleoliadau daearyddol gwahanol
  • Gellir cynnal ymchwil pellach gyda grŵp cynhwysol o gyfranogwyr.

Diffiniad Llywodraeth Cymru o blentyn y Lluoedd Arfog:

Mae gan 'blentyn y Lluoedd Arfog' riant (rhieni) neu unigolyn (unigolion) gyda chyfrifoldeb rhiant gweithredol sydd yn bersonél y Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu: 

  • Yn Lluoedd Arfog Rheolaidd neu Wrth Gefn Ei Mawrhydi - Y Llynges Frenhinol a'r Môr-filwyr Brenhinol; Y Fyddin Brydeinig a'r Llu Awyr Brenhinol, Neu 
  • Yn gyn-filwr y Lluoedd Arfog sydd wedi bod mewn gwasanaeth o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, Neu 
  • Bu farw un o'u rhieni wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac mae'r dysgwr wedi derbyn pensiwn o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu'r Cynllun Pensiynau Rhyfel.

Mae Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru) hefyd yn annog ysgolion i ystyried adnabod plant a phobl ifanc nad ydynt yn cyd-fynd â’r diffiniad uchod ond sydd â chysylltiad â’r Lluoedd Arfog.

Arolwg rhieni/gofalwyr y lluoedd (2020)

Yr heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog: 58% Adnabod plant y Lluoedd Arfog

“Dwi wedi mwynhau mynd i lawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous.”

Arolwg rhieni/gofalwyr y lluoedd (2020)

Systemau cefnogi a fyddai o fudd i blant y Lluoedd Arfog: 61% Adnabod plant y Lluoedd Arfog yn ystod y broses dderbyn

Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Fe weithiodd SSCE Cymru gyda phob un o’r awdurdodau lleol ac ysgolion annibynnol yng Nghymru i gynnal gweithgaredd casglu data ar Blant y Lluoedd Arfog. Roedd hyn yn darparu cipolwg o nifer plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru a’u lleoliad.

Cliciwch ar enw awdurdod lleol i weld y data.

Anglesey Gwynedd Conwy Denbighshire Flintshire Wrexham Ceredigion Powys Pembrokeshire Carmarthenshire Swansea Neath Port Talbot Bridgend Rhondda Cynon Taf Merthyr Tydfil Caerphilly Vale of Glamorgan Cardiff Torfaen Newport Blaenau Gwent Monmouthshire
Awdurdod Lleol (ALl) Nifer yr ysgolion yn ALl Ysgolion gyda phlant Milwyr Nifer y plant Milwyr
Blaenau Gwent 30 4 17
Pen-y-bont ar Ogwr 61 41 189
Caerffili 85 21 84
Caerdydd 132 17 56
Sir Gaerfyrddin 113 31 99
Ceredigion 46 12 33
Conwy 60 17 87
Sir Ddinbych 60 21 41
Sir y Fflint 85 7 57
Gwynedd 97 5 22
Ynys Mon 48 11 111
Merthyr Tudful 29 8 57
Sir Fynwy 37 17 91
Castell-nedd Port Talbot 65 37 133
Casnewydd 57 30 134
Sir Penfro 67 26 222
Powys 94 40 247
Rhondda Cynon Taf 115 30 133
Abertawe 100 29 80
Torfaen 33 21 53
Bro Morgannwg 57 39 283
Wrecsam 73 10 19
       1549    434 2028

*data’r tabl yn gywir ym Mawrth 2025

Rhowch wybod i SSCE Cymru am blant y Lluoedd Arfog sydd yn eich ysgol

Helpwch ni i gasglu data ar y nifer o blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru a’u lleoliad, er mwyn sicrhau fod ysgolion yn cael y gefnogaeth orau bosibl i blant y Lluoedd Arfog.

Gall ysgolion ddefnyddio’r templed canlynol: 4. Templedi: Casglu Data yn adran Adnoddau SSCE Cymru ar ein gwefan.

Noder drwy lenwi’r ffurflen hon y byddwch yn cael eich ychwanegu i rwydwaith SSCE Cymru. Bydd SSCE Cymru yn rhannu manylion am unrhyw ddigwyddiadau sydd i ddod, cyllid, y Bwletin Ysgol, adnoddau a’r gefnogaeth sydd ar gael gan dîm SSCE Cymru.

Cliciwch yma i lenwi ein ffurflen ar-lein

Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg Cymru: Astudiaeth o Ddata a’r Ddarpariaeth o ran Cefnogaeth yng Nghymru (2015)

Wedi ei gomisiynu gan SSCE Cymru a’i reoli gan Uned Ddata Cymru roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys cyfweliadau gydag ysgolion o bob cwr o Gymru a chanfuwyd mai ychydig iawn o ddata oedd ar gael ar blant y Lluoedd Arfog, gan ddangos yr angen am fwy o wybodaeth ac arweiniad i alluogi ysgolion i gasglu data a chael mynediad at gefnogaeth.

Yr hyn wnaeth yr adroddiad ei ganfod, wedi ei seilio ar y data mwyaf diweddar o’r cyfrifiad (2011), yw bod yna deuluoedd y Lluoedd Arfog gyda phlant hyd at 16 oed ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae data cyfrifiad 2011 yn dangos fod isafswm o 2,486 o blant yng Nghymru lle roedd Person Cyswllt y Cartref yn nodi ei fod ef neu hi yn y Lluoedd Arfog. Nid yw hyn yn cynnwys gwybodaeth lle mae’r sawl nad yw’n Berson Cyswllt y Cartref yn y Lluoedd Arfog, na gwybodaeth ar gyn-filwyr neu filwyr wrth gefn neu lle nad yw teuluoedd gyda phlant y Lluoedd Arfog yn byw yn yr un cyfeiriad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn yma

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.