Adnoddau

Cefnogi plant pan fo gwrthdaro

Cefnogi plant pan fo gwrthdaro

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, arweiniad ac yn eich cyfeirio at sefydliadau ac adnoddau sy’n berthnasol i gefnogi plant y Lluoedd Arfog a rhai nad ydynt yn blant y Lluoedd Arfog yn ystod adegau o wrthdaro.

Er bod rhai adnoddau’n cyfeirio at wrthdaro penodol, gellir defnyddio llawer o’r adnoddau i drafod unrhyw achos o wrthdaro. Mae gwrthdaro ac argyfyngau yn effeithio ar sawl teulu, y rhai yn y Lluoedd Arfog a’r sifiliaid, mae gan gymuned ysgol rôl allweddol i sicrhau bod ein teuluoedd yn teimlo’n ddiogel ac yn derbyn cefnogaeth yn ystod cyfnod heriol.

Nid yw'n anghyffredin i blant y Lluoedd Arfog brofi newidiadau rheolaidd i'w ffordd o fyw teuluol ac ysgol, a all fod ar fyr rybudd.   Mae teuluoedd y Lluoedd Arfog yn hyblyg ac yn gyffredinol yn wydn iawn mewn cyfnodau o ansicrwydd. Mae ganddynt hefyd fynediad at lawer iawn o gefnogaeth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, elusennau (yn cynnwys ffederasiynau’r teuluoedd), a thrwy lawer o rwydweithiau cymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Pecyn Gwaith Ysgolion SSCE Cymru yn cynnwys rhan am Iechyd Meddwl a Lles, sy’n darparu gwybodaeth am yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd a chefnogaeth ac ymyraethau lles ar lefel ysgolion.

Gellir hefyd cael adnoddau ychwanegol i gefnogi plant mewn cyfnod o wrthdaro ar Padlet SSCE Cymru.

CCUHP

Erthygl 17: Mae gen i'r hawl i gael gwybodaeth mewn llawer o ffyrdd, cyhyd â'i bod yn ddiogel.

Helpu plant a phobl ifanc i ddeall adegau o wrthdaro

Padlet SSCE Cymru

Am fwy o adnoddau a argymhellir ar gefnogi plant yn ystod adegau o wrthdaro, gweler Padlet SSCE Cymru. 

UNICEF

Mae Cronfa Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Plant (UNICEF) yn sefydliad hawliau plant a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig ym 1946.

Childline

Mae Childline yn wasanaeth sy’n cael ei gynnal gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant. Maent yma i gefnogi pob plentyn neu berson ifanc yn y DU.

Achub y Plant

Achub y Plant yw sefydliad annibynnol cyntaf ac arweiniol y byd i blant - gan drawsnewid bywydau a’r dyfodol yr ydym yn ei rannu.

Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)

Yr NSPCC yw elusen plant arweiniol y DU sy’n helpu i warchod y plant a’r bobl ifanc yr ydych yn gweithio neu’n gwirfoddoli gyda nhw.

Barnardos

Fel elusen, mae Barnardos yn gweithio i wneud yn siŵr fod plant a phobl ifanc yn teimlo’n fwy diogel, yn hapusach, yn iachach ac yn fwy gobeithiol.

Child Bereavement UK

Mae Child Bereavement UK yn helpu teuluoedd i roi trefn ar eu bywydau pan mae plentyn yn galaru neu’n marw.

Cymdeithas Seicolegol Prydain

Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yw’r corff cynrychiadol ar gyfer seicoleg a seicolegwyr yn y DU.

Ysgolion Noddfa

Mae Ysgolion Noddfa yn rhaglen sy’n cefnogi ysgolion i greu diwylliant yn llawn croeso, dealltwriaeth a pherthyn ar gyfer y rhai hynny sydd wedi gorfod ffoi.

Place2Be

Mae Place2Be yn darparu gwasanaethau emosiynol a therapiwtig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, gan ddatblygu gwytnwch plant drwy siarad, gwaith creadigol a chwarae.

BBC Newsround

Mae BBC Newsround yn rhaglen newyddion Brydeinig sydd wedi’i gwneud yn arbennig ar gyfer plant.

Never Such Innocence

Mae Never Such Innocence yn darparu’r offer i blant a phobl ifanc (9 - 18) adlewyrchu ar realiti rhyfel a gwrthdaro.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.