Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog

Grant funding

Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog

Mae Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog (AFET) yn elusen sy’n gweithio i blant ac oedolion ifanc y mae eu haddysg yn cael ei gyfaddawdu neu ei roi mewn perygl o ganlyniad i wasanaeth eu rhieni i’r lluoedd arfog nawr neu yn y gorffennol. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn cefnogi plant y lluoedd arfog ers dros 150 o flynyddoedd. Maent yn gwneud hyn trwy grantiau i unigolion ac ysgolion.

Taflen

Beth yw diben y cyllid Grantiau Cyfunol?

Mae’r rhaglen Grantiau Cyfunol yn fodlon ystyried ceisiadau ar draws sbectrwm, o grantiau bach rhwng £1,000 a £5,000 i grantiau llawer iawn mwy i gefnogi grwpiau mwy o blant y lluoedd arfog. I roi syniad i chi, mae grantiau blaenorol wedi bod rhwng £15,000 a £40,000. Nid ydynt yn ariannu prosiectau cyfalaf.

Rhaid cyflawni’r prosiectau dros gyfnod o hyd at flwyddyn, gan ddechrau ym mis Medi 2026, i gefnogi plant y lluoedd arfog ar hyd eu taith addysgol.

Gall cyllid ysgolion fod ar gyfer unrhyw beth sy’n helpu plant y lluoedd arfog i oresgyn anfanteision o ganlyniad i waith eu rhieni.

Gall grantiau cyfunol gefnogi ystod eang o fentrau, yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried i gefnogi ysgolion neu grwpiau o ysgolion gyda phlant y lluoedd arfog ond fe allent fod dan arweiniad allgymorth Ysgol, Awdurdod Lleol neu Brifysgol.

SYLWER: Gall AFET hefyd helpu trwy roi grant i gynorthwyo plentyn unigol i fynd i’r afael ag anawsterau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth a symudoldeb eu rhieni.

Mae grantiau blaenorol wedi cynnwys cyllid ar gyfer rhaglenni megis:

Dylai prosiectau allu mesur gwelliant a bod yn hunan-gynhaliol y tu hwnt i ddiwedd y grant.

 Beth yw’r blaenoriaethau?

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 8 Mai 2026. Gyda’r canlyniadau’n cael eu derbyn erbyn diwedd mis Mehefin.

SYLWER: mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ymholiad cychwynnol a chwrdd gyda Phrif Swyddog Gweithredol AFET cyn cwblhau’r ffurflen gais. Dylid trefnu hyn ddim hwyrach na 20 Ebrill 2026.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.