Mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn caiff y rhaglen hon ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef elusen sy’n cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog trwy ddarparu rhaglenni cyllid sy’n creu newid go iawn i gymunedau’r Lluoedd Arfog ledled y DU.
Beth yw diben y cyllid?
Bydd y Rhaglen Cefnogi Disgyblion y Lluoedd Arfog yn dyfarnu grantiau o £5,000 i £150,000 tuag at gyflawni prosiect annibynnol dros gyfnod hyd at ddwy flynedd, i gefnogi plant y lluoedd arfog ar hyd eu taith addysgol.
Pwy sy'n gymwys?
SYLWER: Anogir ysgolion i gydweithio a gwneud cais mewn clwstwr.
Beth yw’r blaenoriaethau?
SYLWER: Bydd angen i’ch prosiect fodloni o leiaf un o’r themâu hyn.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00pm ar 30 Medi 2026. Gyda’r canlyniadau’n cael eu derbyn erbyn diwedd mis Tachwedd er mwyn dechrau ar y prosiectau yn 2027.
SYLWER: Bydd ceisiadau yn agor ar 27 Ebrill 2026.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.