Mae’r Gymraeg yn rhan o fywyd o ddydd i ddydd. Mae dros hanner miliwn o bobl yn siarad Cymraeg, mae ysgolion yn addysgu Cymraeg ac mae’r Gymraeg yn destun dathliad mewn gwyliau fel Eisteddfodau, sy’n uchafbwynt calendr diwylliannol Cymru. Mae modd gweld y Gymraeg mewn enwau lleoedd ac ar arwyddion stryd ac mae modd ei chlywed ar sianeli teledu a gorsafoedd radio. Mae’r sin gerddoriaeth Gymraeg yn ffynnu, ac mae rhaglenni teledu a ffilmiau Cymraeg yn ennyn sylw y tu hwnt i ffiniau Cymru.
Mae’r Gymraeg yn ofynnol yn yr holl ysgolion yng Nghymru, ond mae faint o Gymraeg sy’n cael ei haddysgu yn amrywio, yn dibynnu ar y math o ysgol yr ydych yn ei mynychu. Dengys ymchwil y gall siarad mwy nag un iaith hybu eich sgiliau mewn sawl ffordd
Yr heriau mwyaf sylweddol i addysg plant y lluoedd arfog: 17% o ysgolion cynradd wedi nodi Dysgu Cymraeg a 21% o ysgolion uwchradd wedi nodi Dysgu Cymraeg.
Mae gen i hawl i siarad fy iaith fy hun ac i ddilyn ffordd o fyw fy nheulu.
Symudais i Gymru oherwydd gwaith fy nhad yn y Fyddin. Roeddwn yn credu y byddwn yn cael fy mwlio ac roeddwn yn swil wrth gyfarfod â phobl newydd, ond fe wnes i ffrindiau.
I’ch helpu i ddechrau dysgu Cymraeg, dyma rai o blant y Lluoedd Arfog o Ysgol Gynradd y Tywyn yn Ynys Môn, yn rhannu rhai geiriau ac ymadroddion allweddol yn y Gymraeg.
Dysgu Cymraeg
Cyrsiau ar-lein am ddim a gwersi byw.
Llywodraeth Cymru: Cymraeg i Blant
Gwybodaeth am ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Llywodraeth Cymru: Dy Ganllaw i Addysg Gymraeg
Dinolingo
Dysgu iaith ar gyfer plant.
S4C Cyw
Caneuon, gemau a lluniau i helpu plant ifanc i ddysgu ac ymarfer eu Cymraeg.
LearnWelsh
I ddysgwyr newydd ymarfer dysgu Cymraeg drwy wersi, gemau a phrofion sydyn ar dros 100 o destunau Cymraeg.
BBC Bitesize: Cymraeg i ddysgwyr - Cyfnod Sylfaen
Isod gweler y sain Cymraeg ar gyfer llyfrau dwyieithog Little Troopers wedi’u recordio gan Emily ac Ani, plentyn y Lluoedd Arfog a’i ffrind o Ysgol Corn Hir (Ynys Môn).
I gyflwyno cais am gyfres o lyfrau, cysylltwch â SSCECymru@wlga.gov.uk
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.