Nododd Rydal Penrhos (Conwy) Fis y Plentyn Milwrol eleni gyda Gwasanaeth yn y capel.
Meddai’r ysgol:
I ddathlu Mis y Plentyn Milwrol, cynhaliodd ysgol annibynnol Rydal Penrhos ddigwyddiad capel arbennig ysgol gyfan yn ei eglwys, Sant Ioan. Mynychodd nifer o ddisgyblion, rhieni, gofalwyr a staff, a gwesteion o gymuned y Lluoedd Arfog. Nid yn unig oedd yn dathlu plant y Lluoedd Arfog, ond roedd yn amlygu’r heriau unigryw sy’n wynebu’r gymuned, o adleoliadau rheolaidd i batrymau dyddiol, perthnasau ac addysg yn cael eu hamharu.
Fel rhan o’i darpariaeth fugeiliol gref, mae Rydal Penrhos wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog . Mae’r ysgol - sy’n addysgu disgyblion rhwng 2 oed ac 18 oed - wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog, ac yn cydweithio’n agos SSCE (Gwasanaeth Cefnogi Plant mewn Addysg Cymru) i ddeall a chefnogi anghenion teuluoedd y Lluoedd Arfog yn well ledled Gogledd Cymru. Yn 2024, roedd Rydal Penrhos yn un o’r 19 sefydliad yng Nghymru i dderbyn Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Lluoedd Arfog.
Diolch i chi am rannu’r lluniau hyfryd hyn gyda ni Rydal Penrhos.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.