Gweithgareddau Mis y Plentyn Milwrol 2025

Ysgol Gynradd Romilly yn dathlu Mis y Plentyn Milwrol

Ysgol Gynradd Romilly yn dathlu Mis y Plentyn Milwrol

Mae Ysgol Gynradd Romilly (Bro Morgannwg) wedi cael mis prysur yn dathlu Mis y Plentyn Milwrol fel ysgol.

Rhannodd Cefnogwr Plant y Lluoedd Arfog yr ysgol, Ashleigh:

Mae’r plant yn Ysgol Gynradd Romilly wedi mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth am, a dathlu Plant y Lluoedd Arfog yn ein hysgol. Maent wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau drwy gydol y mis, gan gynnwys creu darn o waith celf ar y thema ‘Dant y Llew Piws’, dysgu a pherfformio y gerdd a’r gân ‘dandelion’ gyda’u grŵp blwyddyn, a chymryd rhan mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan ‘Never Such Innocence’ ar y thema ‘Atgofion’.

Yn ystod y gweithgareddau hyn, dysgodd y plant am y lluoedd arfog a’n gwasanaethau’r lluoedd, a gwylio fideo yn esbonio rhai o brofiadau Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Fe roddodd ein Plant y Lluoedd Arfog sgwrs i’w dosbarthiadau am beth mae’n ei olygu i fod yn Blentyn y Lluoedd Arfog, a chymryd rhan mewn gweithdai Little Troopers, lle cawson nhw gyfle i rannu profiadau personol.

Tua diwedd y mis, daeth Forces Fitness i mewn i’r ysgol i ddarparu sesiynau meithrin tîm ar gyfer yr ysgol gyfan, lle cafodd Blant y Lluoedd Arfog gyfle i fod yn gapteiniaid. Ac i gloi, daeth dathliadau’r mis i ben gyda Diwrnod Piws. Daeth y plant i gyd i’r ysgol yn gwisgo piws, a chafodd Blant y Lluoedd Arfog eu crysau-t arbennig eu hunain.  Roedd hi’n ddiwrnod braf ar gyfer codi ymwybyddiaeth a dathlu Plant y Lluoedd Arfog!”          

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.