Gweithgareddau Mis y Plentyn Milwrol 2025

Arddangosfa 'Purple Up' yn Ysgol Uwchradd Prestatyn

'Purple Up' display at Prestatyn High School

Fe wnaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn (Sir Ddinbych) fwynhau dod ynghyd yn yr ystafell les gyda Chefnogwr Plant y Lluoedd Arfog yr Ysgol i ddathlu Diwrnod Porffor i fyny!

Fe wnaethon nhw lawer o bosteri olion llaw piws, sydd nawr yn cael eu harddangos yn falch ar y bwrdd Plant y Lluoedd Arfog/pobl ifanc. Cawsant amser da yn cwblhau chwileiriau Rhyfel Byd Cyntaf ac Ail Ryfel Byd, ac fe wnaethant fwynhau trîts gyda’i gilydd.

Rhannodd rhai o’r bobl ifanc:

“Rwy’n mwynhau cwrdd â Phlant eraill y Lluoedd Arfog yn yr ysgol, rydw i wedi gwneud llawer mwy o ffrindiau o wahanol flynyddoedd.”

“Rydw i’n edrych ymlaen at ddathlu/cyfarfod a gwneud gweithgareddau celf, gan fy mod wrth fy modd gyda chelf.”

Cafodd yr ysgol ymweliad gan Nik Perring hefyd, awdur preswyl gyda’r elusen Never Such Innocence i arwain ar gyfres o weithdai barddoniaeth ar gyfer 5 dosbarth gyda nifer uchel o blant y lluoedd arfog a’u cyfoedion. Cafodd y digwyddiad hwn ei ariannu drwy garedigrwydd Naval Children's Charity, sydd eisiau amlygu a hyrwyddo cysylltiadau cymunedol cryf sydd gan yr ysgol gyda’r Lluoedd Arfog.

Gydag arweiniad Nik, lluniodd y bobl ifanc oedd wedi cymryd rhan yn y gweithdai gerddi anhygoel, ac mae eu Cefnogwr Plant y Lluoedd Arfog yn yr ysgol yn mynd i’w cyflwyno fel rhan o Gystadleuaeth Farddoniaeth Never Such Innocence. Roedd hi’n ddiwrnod llawn mwynhad, ac roedd hi’n braf gweld y bobl ifanc yn synnu eu hunain gyda’u dawn farddonol a’u cerdd derfynol!

Diolch yn fawr i Naval Children's Charity, Never Such Innocence, staff yr ysgol am drefnu’r digwyddiad, ac wrth gwrs, y bobl ifanc a gymerodd rhan.

Diolch i chi am rannu’r lluniau hyfryd hyn gyda ni Ysgol Uwchradd Prestatyn!

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.