Roedd Tîm Grwpiau Diamddiffyn Powys, gyda chyllid gan SSCE Cymru yn gallu hwyluso digwyddiad ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd ar Fferm Pentre yn ystod mis Ebrill. Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar fis y plentyn milwrol, lles y teulu a gwneud cysylltiadau.
Rhannodd Jane Watts, Athro Arbennig - grwpiau diamddiffyn, Gwasanaeth Ysgolion:
“Roedd hi’n ddiwrnod gwych gyda llawer o wenu, chwerthin a sgwrsio ymysg teuluoedd a’r Tîm Grwpiau Diamddiffyn. Bu i bawb fwynhau: trin, tywys a bwydo’r anifeiliaid fferm, tostio malws melys, rasys, crefftau, rasys tîm, picnic a digon o gacen!”
Diolch i chi am rannu’r lluniau hyfryd hyn gyda ni Jane!
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.