Mae Ysgol Uwchradd Hwlffordd wedi cael mis prysur arall yn dathlu Mis y Plentyn Milwrol eleni.
Meddai’r ysgol:
“Yn gynharach eleni, cymerodd rhai o’n disgyblion ran yng nghynhyrchiad fideos Profiad Plant y Lluoedd Arfog. Dangoson ni rhai o’r fideos yn ein Gwasanaethau Ysgol yn ystof Mis y Plentyn Milwrol er mwyn hysbysu pawb o’r heriau a’r profiadau mae Plant y Lluoedd Arfog yn gorfod eu hwynebu.
Lansion ni ein cynllun Llysgennad Plant y Lluoedd Arfog yn swyddogol hefyd, gan gychwyn gyda 14 aelod o’n Clwb ‘Forces Life’ i fod yn gefnogwyr ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog yn yr ysgol. Maent nawr yn gwisgo eu bathodynnau’n falch ar eu gwisg ysgol, ac yn rhoi cefnogaeth i blant y Lluoedd Arfog, a rhannu gwybodaeth o amgylch yr ysgol.
Tua diwedd y mis, fe gymeron ni rhan mewn sesiwn Addewid Disgyblion y Lluoedd Arfog, ac rydym yn edrych ymlaen at y prif weithdy ym mis Mehefin.
I gloi Mis y Plentyn Milwrol, cymerodd aelodau o’r Clwb ‘Forces Life’ a’u ffrindiau yn Diwrnod Piws yn yr ysgol, gydag ymweliad i Barc Antur Heatherton yn Sir Benfro i ddilyn. Cawsom ddiwrnod gwych, gyda thywydd bendigedig, ac roedd staff Heatherton wedi gofalu amdanom yn dda iawn. Diolch yn fawr iawn i SSCE Cymru am ariannu’r digwyddiad.”
Diolch i chi am rannu’r lluniau hyfryd hyn gyda ni Ysgol Uwchradd Hwlfordd. Mae’n debyg eich bod wedi cael mis prysur yn dathlu a chodi ymwybyddiaeth o blant y Lluoedd Arfog yn eich ysgol a’u profiadau.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.