Drwy gydol mis Ebrill, bu Ysgol Bae Baglan (Castell-nedd Port Talbot) yn brysur yn dathlu Mis y Plentyn Milwrol gyda’u plant yn cwblhau gweithgareddau a chystadlaethau i ddathlu eu hunain a’u profiadau.
Rhannodd Abby Challenger, Cefnogwr Plant y Lluoedd Arfog Ysgol Bae Baglan:
“Mae ein plant y lluoedd arfog o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 11 wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth gelf lle lunion nhw ddarn o waith celf sy’n arddangos eu profiadau o fywyd milwrol. Lluniwyd ystod eang o weithiau celf sy’n cael eu harddangos yn yr ysgol.
Cyflwynwyd wyau Pasg fel gwobr i’r plant am eu gwaith caled, o flaen eu cyfoedion, a rhoddodd gyfle i ni drafod Mis y Plentyn Milwrol gyda phlant nad ydynt yn gyfarwydd â’r Lluoedd Arfog yn yr ysgol hefyd.
Mae disgyblion a staff yn ein hysgol Gynradd ac Uwchradd wedi cael bathodynnau a sticeri i ddathlu Mis y Plentyn Milwrol, sy’n cael eu gwisgo gyda balchder drwy gydol y mis. Rydym wedi arddangos ein baner Mis y Plentyn Milwrol i hysbysu’r gymuned ehangach ein bod yn dathlu’r achlysur, ac i ysbrydoli eraill i wneud hynny hefyd. Yn ychwanegol at hynny, rydym wedi gosod ein baner Ysgol sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog yn nerbynfa’r ysgol uchaf er mwyn atgoffa ein hymwelwyr o’n hymrwymiad i’n teuluoedd y Lluoedd Arfog.
Mae ein dosbarthiadau iau wedi mwynhau cymryd rhan yn nhudalennau lliwio Little Troopers, gan wisgo eu sticeri Mis y Plentyn Milwrol yn falch. Maent wedi mwynhau cymryd rhan mewn teithiau cerdded yn chwilio am flodau dant y llew, a thrafod sut mae’r blodau’n cynrychioli’r plentyn milwrol.
Rydym wedi achub ar y cyfle i roi’r newyddion diweddaraf i gymuned ein hysgol am y gwaith rydym yn ei wneud drwy ychwanegu lluniau a gwybodaeth i wefan ein hysgol drwy gydol mis Ebrill.
Yna daethom ynghyd gyda phlant y lluoedd arfog o fewn yr ALl, a chymryd rhan mewn diwrnod llawn hwyl, ac roedd y plant wedi mwynhau’n arw. Yn ychwanegol at hynny, ymunodd rhai o blant y lluoedd arfog Ysgol Bae Baglan â chyn-filwyr yng Nghanolfan Siopa Aberafon ar gyfer “parti stryd” i ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE). Rhannodd ddisgyblion gardiau o ddiolch gyda’r cyn-filwyr i ddiolch am eu gwasanaeth.”
Diolch i chi am rannu’r lluniau hyfryd hyn gyda ni Ysgol Bae Baglan. Mae’n debyg eich bod wedi cael mis prysur yn dathlu a chodi ymwybyddiaeth o blant y Lluoedd Arfog yn eich ysgol a’u profiadau.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.