Mae Ysgol Gynradd Pencoed (Pen-y-bont ar Ogwr) wedi bod yn brysur iawn yn crefftio drwy gydol mis Ebrill i ddathlu Mis y Plentyn Milwrol.
Cynhaliodd yr ysgol weithdy crefftau piws lle wnaeth Blant y Lluoedd Arfog a’u cyfoedion faneri, cadwyni papur a phosteri piws i liwio’r ysgol! Bu i blant y Lluoedd Arfog fwynhau gwneud breichledi allan o fandiau ‘loom’ a gleiniau, cylch allweddi Mis y Plentyn Milwrol a digon o ddefnydd o sialc a lluniau, a lliwio dant y llew ar yr iard o amgylch yr ysgol.
Ymwelodd Never Such Innocence â’r ysgol hefyd am un o’u gweithdai ysgrifennu caneuon ‘Memoir’ ar gyfer Mis y Plentyn Milwrol. Cafodd ddisgyblion blwyddyn 5/6
Am fis prysur yn Ysgol Gynradd Pencoed! Diolch i chi am rannu’r lluniau hyfryd hyn gyda ni!
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.