Gweithgareddau Mis y Plentyn Milwrol 2025

Ysgol Gynradd Llanfair yn dathlu Diwrnod Porffor i fyny!

Llanfair Primary School celebrate Purple Up Day!

Bu i Ysgol Gynradd Llanfair (Bro Morgannwg) fwynhau dathlu Diwrnod Porffor i Fyny eleni drwy gynnal gwasanaeth arbennig lle safodd plant y lluoedd arfog yn ddewr o flaen eu cyfoedion i rannu eu profiadau bywyd fel rhan o deulu y Lluoedd Arfog.

Yn ystod Mis y Plentyn Milwrol, ymwelwyd yr ysgol gan Sian Woodland o Woody's Lodge, a esboniodd sut mae Woody's Lodge yn cefnogi cyn-filwyr a gweithwyr y gwasanaethau brys.

Rhannodd Alyson Jones, Cynorthwyydd Cymorth Dysgu y Weinyddiaeth Amddiffyn yn yr ysgol “Gwisgodd ein disgyblion biws ac roedd llysgenhadon ysgolion y Weinyddiaeth Amddiffyn yn wych am arwain y gwasanaeth.”

Diolch i Ysgol Gynradd Llanfair am rannu eich dathliad Mis y Plentyn Milwrol gyda ni!

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.