Cymerodd Blant y Lluoedd Arfog yn Ysgol Gynradd Pontarddulais (Abertawe) ran mewn gweithdy ‘byw’ Little Troopers eleni, gan ddathlu beth mae’n ei olygu i fod yn ‘Little Trooper’.
Elusen gofrestredig sy'n cefnogi plant y lluoedd arfog sydd â rhiant/rhieni yn gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain, yn rheolaidd neu wrth gefn, yw Little Troopers. Maent yn darparu ystod eang o adnoddau Little Troopers At School y gellir eu defnyddio mewn lleoliadau addysgol i gefnogi Plant y Lluoedd Arfog.
Rhannodd Cefnogwr Plant y Lluoedd Arfog yr ysgol, Nichola:
“Roedd y plant wedi mwynhau’r rhaglen yn arw, ac wedi cael amser gwych yn gwneud y gweithgareddau. Roedd y thema ‘piws’ yn amlwg, o’n gwisgoedd a’r ystafell, i nwyddau piws a gymeron nhw adref gyda’u tystysgrifau.”
Diolch i chi am rannu’r lluniau hyfryd hyn gyda ni Ysgol Gynradd Pontarddulais. Rydym yn falch o weld eich bod wedi cael amser gwych yn cymryd rhan yn y gweithdy!
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.