Dydd Gwener, 4 Ebrill, dychwelodd yr elusen Never Such Innocence i Gymru i gyflwyno gweithdy creadigol arbennig yn Ysgol Golwg Pen y Fan (Powys) i ddathlu Mis y Plentyn Milwrol. Arweiniwyd y sesiwn gan Katie Salari a Clive Sanders o Never Such Innocence, ynghyd â Jo, Swyddog Arweiniol Cyfranogi SSCE Cymru, a oedd yn falch iawn o gymryd rhan yn y diwrnod.
Yn ystod y gweithdy, creodd Blant y Lluoedd Arfog freichledi Mis Plentyn y Lluoedd Arfog, ac ysgrifennon nhw farddoniaeth dwymgalon i amlygu a chryfhau cysylltiad ystyrlon yr ysgol â chymuned y Lluoedd Arfog.
Mae Never Such Innocence yn elusen anhygoel sy’n cynnal cystadlaethau creadigol drwy gydol y flwyddyn. Mae eu cystadleuaeth bresennol yn cau ar 2 Mai, gyda’r ymgeiswyr terfynol yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo ym Mhrif Adeilad y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundain ym mis Mehefin.
Cofleidiodd ddisgyblion Ysgol Golwg Pen y Fan yr her greadigol gyda brwdfrydedd a gofal. Dan arweiniad Clive a Katie - wedi’u harfogi gyda’u “pensiliau barddoniaeth” - lluniodd y plant ddarnau llawn dychymyg a phŵer. Nid yn unig oedd y gweithdy yn ysbrydoledig, ond roedd yn llawn creadigrwydd, gyda nifer o’r disgyblion yn synnu eu hunain gyda’u lleisiau barddonol.
Diolch yn fawr i Never Such Innocence, staff yr ysgol a gefnogodd y digwyddiad, ac wrth gwrs, y disgyblion anhygoel a gymerodd ran. Cafodd Clive, Katie, Jo groeso cynnes gan gymuned yr ysgol, a chawsant y fraint o glywed plant y lluoedd arfog yn rhannu straeon a myfyrdod.
I nodi’r achlysur, dathlwyd ymdrechion y plant ymhellach, ac estynnwyd gwahoddiad i’r gwesteion gan gynnwys rhieni Plant y Lluoedd Arfog. Cyflwynodd y Maer lleol a’r Lefftenant-Cyrnol Price, Prif Swyddog Ysgol Hyfforddi Troedfilwyr (Aberhonddu) dystysgrif i bob plentyn y Lluoedd Arfog am gymryd rhan yn y gweithdy, a wnaeth y diwrnod yn fwy cofiadwy.
Diolch i chi am rannu’r lluniau hyfryd hyn gyda ni. Rydym yn falch o weld bod Plant y Lluoedd Arfog wedi mwynhau cymryd rhan yn y gweithdai!
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.