Llongyfarchiadau i enillwyr cystadleuaeth barddoniaeth a chelf Never Such Innocence Mis y Plentyn Milwrol 2025 - gan gynnwys dwy o Gymru!
Cydnabuwyd Evie-Sue, plentyn y Lluoedd Arfog o Ysgol Glan Clwyd, a Rochelle o Ysgol Uwchradd Prestatyn (y ddwy ysgol yn Sir Ddinbych), am eu cerddi pwerus a oedd yn adlewyrchu ar thema eleni: Atgofion. Mae eu gwaith yn enghraifft emosiynol o sut mae pobl yn mynegi eu profiadau a’u hemosiynau.
Ym mis Mehefin, er mwyn nodi cychwyn Wythnos y Lluoedd Arfog, estynnwyd gwahoddiad i’r enillwyr i ddathliad arbennig yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundain, a gynhaliwyd gan y tîm Never Such Innocence.
Cliciwch yma i weld ceisiadau buddugol 2025.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.