12/11/2025
Dyddiad: Dydd Mercher 12fed Tachwedd
Amser: 09:00 – 14:45
Lleoliad: Canolfan Wrth Gefn 203, Llandaf, Caerdydd
Byddai SSCE Cymru wrth ei bodd yn eich croesawu i'r Ŵyl Lluoedd Arfog AM DDIM.
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bob plentyn oedran ysgol gorfodol. Os ydych chi'n ysgol gyda llai na 10 o blant y Lluoedd Arfog, rydym yn hapus i blant y Lluoedd Arfog ddod â ffrind, ond gofynnwn i nifer y mynychwyr o'ch ysgol fod o leiaf 50% o blant y Lluoedd Arfog.
Bydd plant / pobl ifanc y Lluoedd Arfog yn cael eu grwpio yn ôl oedran ac yn cymryd rhan mewn pum gweithdy gwahanol sy'n canolbwyntio ar hanes, iechyd a lles, tasgau creadigol ac ymarferion adeiladu tîm.
Bydd gweithdai yng Ngŵyl Lluoedd Arfog De Cymru yn cael eu cyflwyno gan:
Bydd staff ysgol sy'n goruchwylio'r plant / pobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a rhwydweithio â'i gilydd, ynghyd â thîm SSCE Cymru ac aelodau cefnogol o'r awdurdod lleol.
Agenda
|
Croeso |
09:00 - 09:45 |
|
Gweithdy 1 |
09:45 - 10:30 |
|
TORRI |
10:30 - 10:50 |
|
Gweithdy 2 |
10:50 - 11:35 |
|
Gweithdy 3 |
11:35 - 12:20 |
|
CINIO |
12:20 - 12:50 |
|
Gweithdy 4 |
12:50 - 13:35 |
|
Gweithdy 5 |
13:35 - 14:20 |
|
Adborth |
14:20-14:35 |
Dylai disgyblion wisgo gwisg ysgol/cit addysg gorfforol ysgol a trainers a dod â'u pecyn cinio eu hunain. Mae parcio ar gael ar y safle. Bydd angen ffurflenni caniatâd ar gyfer yr holl gyfranogwyr, a bydd hyn yn cael ei anfon gyda rhagor o wybodaeth ar ôl eich archeb.
Cwblhewch y ffurflen gofrestru erbyn dydd Gwener 24 Hydref.
Cliciwch yma i gofrestru i fynychu
Mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Os ydych chi'n wynebu unrhyw rwystrau mewn perthynas â theithio, cysylltwch â ni, gallwn edrych ar opsiynau i gefnogi gyda thrafnidiaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, plis cysylltwch â yasmin.todd@pembrokeshire.gov.uk
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.