Major Andy McGuffie
203 Catrawd Feddygol (Cymreig)
Llongyfarchiadau i'r Uwchgapten Andy McGuffie, Chwarterfeistr Catrodol Catrawd Feddygol 203 (Cymreig), Caerdydd. Chi yw ein Seren ar gyfer mis Ionawr!
O'r eiliad y cyfarfu tîm SSCE Cymru ag Andy, aeth y tu hwnt i'n cefnogi i gynnal Gŵyl y Lluoedd Arfog yn Ne Cymru. Darparodd Andy yn garedig leoliad a alluogodd ni i ddod â 90 o blant y Lluoedd Arfog o bob rhan o'r rhanbarth at ei gilydd. Trefnodd hefyd ar gyfer rhai personél Wrth Gefn gwych i gyflwyno gweithdy cymorth cyntaf i'r plant a'r bobl ifanc sy'n gysylltiedig â'r fyddin, lle dysgon nhw sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol ac achub bywydau. Cyflwynodd y gweithdy gwych hwn gyfranogwyr i gangen wahanol o'n Lluoedd Arfog, gan eu helpu i ddeall yr amrywiaeth eang o broffesiynau sy'n ffurfio'r cydweithfa filwrol.
Yn ogystal â hyn, mae Andy wedi cynnig cefnogaeth barhaus yn hael i'n hysgolion yn Ne Cymru, gan ein helpu i barhau i adeiladu perthynas gadarnhaol rhwng lleoliadau addysg a chymuned y Lluoedd Arfog.
Diolch yn fawr iawn i Andy am atgyfnerthu ein hymdrechion. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ac yn mwynhau gweithio gyda chi a'r tîm.
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.