Erbyn hyn mae gan Rwydwaith SSCE Cymru 400 o aelodau sy’n cynnwys disgyblion ysgolion, staff awdurdodau lleol, aelodau etholedig, personél y Lluoedd Arfog, elusennau, sefydliadau cymorth a gweithwyr addysg proffesiynol.
Mae gan bob aelod o rwydwaith SSCE Cymru ddiddordeb yn addysg plant aelodau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru. Maent yn cyfrannu cynnwys ar gyfer newyddlen chwarterol SSCE Cymru; yn helpu i hyrwyddo’r adnoddau, y deunyddiau a’r gefnogaeth a roddir gan SSCE Cymru ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran cefnogi plant aelodau’r Lluoedd Arfog.
Drwy ymuno â Rhwydwaith SSCE Cymru, rydych yn cytuno i dderbyn gwybodaeth berthnasol gan SSCE Cymru. Bydd hyn yn cynnwys newyddlen chwarterol, gwybodaeth am gyllid i gefnogi plant aelodau’r Lluoedd Arfog mewn addysg a gwahoddiadau i ddigwyddiadau SSCE Cymru. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw qan SSCE Cymru ac ni fyddant yn cael eu rhannu heb gael eich caniatâd chi yn gyntaf. I ddod allan o Rwydwaith SSCE Cymru cysylltwch â SSCECymru@wlga.gov.uk
"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."
Aiden
"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."
Ashim
"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."
Chloe
"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."
Chloe
Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.