Cafodd Yasmin ei magu yn un o deuluoedd y Lluoedd Arfog ac mae’n deall yn uniongyrchol y profiadau unigryw o fod yn blentyn y Lluoedd Arfog. Wedi byw trwy’r broses o leoli, symud, gwahanu a’r newid o fywyd milwrol, mae ganddi ddealltwriaeth glir o’r heriau a’r cyfleoedd cyffrous mae teuluoedd y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu.
Gyda gradd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar a chefndir mewn swyddi cefnogi amrywiol o fewn addysg uwchradd, swydd fwyaf diweddar Yasmin oedd fel Swyddog Cyswllt Teuluoedd yn Ne Cymru. Trwy ei swydd mae wedi annog ymgysylltiad disgyblion a theuluoedd mewn bywyd ysgol ac wedi darparu cefnogaeth hanfodol i deuluoedd mewn angen.
Mae’n angerddol ynglŷn â sicrhau fod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei glywed a’i gefnogi ac mae’n ymroddedig i weithio ochr yn ochr â phlant y Lluoedd Arfog ac ysgolion i wella ac ehangu’r systemau cefnogi sydd ar gael iddynt.