Cwrdd â'r tîm

Rebecca Curtis

Swyddogion Cyswllt Ysgolion

Rebecca Curtis

Mae Rebecca (Becca) yn Athrawes Ysgol Uwchradd wedi cymhwyso ac yn Gydlynydd AAA ar ôl cwblhau TAR Meistr mewn Addysg a’r Dyfarniad Cydlynydd AAA Cenedlaethol. Trwy ei gwaith blaenorol fel Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mae gan Becca brofiad helaeth mewn cefnogi plant, yn arbennig y rhai hynny gydag anghenion ychwanegol, mewn ysgolion gan sefydlu a chynnal ystod eang o ymyriadau, i gyd gyda’r nod o wella’r canlyniadau i bobl ifanc. Fel gweithiwr proffesiynol ym myd addysg mae Becca yn angerddol, ymrwymedig, rhagweithiol ac yn hyrwyddo cynhwysiant, dysgu sy’n rhoi ansawdd yn gyntaf ac ymyrraeth gynnar yn gryf.   

Yn ddiweddar mae Becca hefyd wedi gweithio fel Ymarferydd Arweiniol ar Anghenion Ychwanegol ar draws nifer o ysgolion. Mae’r swydd hon wedi ei galluogi i gydweithio gyda chydweithwyr ar draws nifer o sefydliadau addysgol i ddatblygu a chefnogi gwelliannau parhaus, rhannu arfer orau a chyflwyno a gweithredu mentrau newydd. Drwy’r gwaith hwn mae wedi darparu arweiniad proffesiynol i staff i ehangu ansawdd addysgu a dysgu cynhwysol. 

Fel gwraig aelod o’r Lluoedd Arfog a mam plentyn y Lluoedd Arfog, mae gan Becca brofiad uniongyrchol o fywyd yn y Lluoedd Arfog. Yn ddiweddar mae wedi symud i Gymru ac mae’n ymdrin â’r heriau y gall penodiad ei olygu i deuluoedd y Lluoedd Arfog. Mae Becca yn angerddol ynglŷn â gweithio gyda phlant y Lluoedd Arfog ac mae’n awyddus i gynorthwyo i ddatblygu diwylliant cadarnhaol ac ymwybyddiaeth o’r heriau yn ogystal â’r profiadau cadarnhaol sydd ganddynt. 

Yn ei hamser hamdden mae Becca yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu, cerdded, rhedeg ac ymweld â safleoedd hanesyddol. 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.