Daeth Millie yn gyfrifol am reoli rhaglen SSCE Cymru ddechrau 2018, gan ganolbwyntio ar osod nodau strategol a chenhadaeth a fyddai’n ehangu’r gefnogaeth sydd ar gael i blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Fel eiriolwr dros blant y Lluoedd Arfog, mae Millie bob amser yn awyddus i siarad â nhw yn uniongyrchol ac mae wedi cydlynu gweithgareddau i gynnwys plant y Lluoedd Arfog yng ngwaith SSCE Cymru. Mae Millie wedi creu sawl cyfle i gydweithio yng Nghymru ac mae bob amser yn awyddus i rannu arfer da gyda sefydliadau ar draws y DU.
Drwy ei swyddi blaenorol o fewn y byd addysg, mae Millie wedi datblygu profiad a dealltwriaeth o reoli prosiectau, marchnata a chyfathrebu, cwricwlwm rhyngwladol a chymwysterau. Mae gan Millie gymhwyster Ymarferydd Rheoli Prosiect PRINCE 2, mae ganddi radd mewn Astudiaethau Seicolegol ac mae wedi cymryd rhan yn y rhaglen Arweinyddiaeth COBSEO Clore a ariennir gan y Forces in Mind Trust (FiMT).
Uchafbwynt gyrfa broffesiynol Millie oedd bod yn un o’r tri olaf yng nghategori Ieuenctid / Cadet Gwobrau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru 2019.