Cwrdd â'r tîm

Joanna Wolfe

Swyddog Arweiniol Cyfranogiad

Joanna Wolfe

Mae gan Joanna (Jo) brofiad uniongyrchol o fywyd yn y Lluoedd Arfog, ar ôl bod yn blentyn y Lluoedd Arfog ei hun ac yna priodi aelod o’r Fyddin a oedd wedi bod yn gwasanaethu ers amser maith. Mae ganddynt ddau o blant ac maent wedi byw mewn sawl lleoliad ar draws y DU a’r Almaen. Tra’n dilyn y fyddin am yr 20 mlynedd diwethaf, mae Jo wedi ymgymryd ag amrywiol swyddi, gan gynnwys Ailsefydlu, Addysg ac Adnoddau Dynol, y cyfan o fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn.  Yn ddiweddar maent wedi ymgartrefu yng Nghymru ac mae ei gŵr yn parhau i fudo i lle bynnag mae’r Fyddin ei angen.

Mae Jo yn arddwraig a cherddwraig frwd, rhywun sy’n llwyr werthfawrogi’r buddion adferol o fod allan yng nghanol byd natur.   Mae Jo hefyd wedi mwynhau nifer o swyddi gwirfoddol.  Bu’n gweithio gydag elusennau fel Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymorth y Lluoedd Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd ac yn fwy diweddar y Sgowtiaid lle mae’n Arweinydd Cybiau’r Sgowtiaid.

Mae Jo wastad wedi mwynhau gweithio gyda phlant ac mae’n deall yn llwyr y pwysigrwydd o wrando arnynt ac ar eu safbwyntiau. Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn parhau i’w wneud fel Swyddog Arweiniol Cyfranogi er mwyn i blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u dathlu.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.