Cwrdd â'r tîm

Cara Lloyd-Roberts

Swyddogion Cyswllt Ysgolion

Cara Lloyd-Roberts

Mae Cara yn athrawes ysgol gynradd sydd wedi cymhwyso, mae ganddi radd mewn Astudiaethau Addysg ac Anghenion Arbennig a Chynhwysol, ac yn dilyn hynny cwblhaodd gwrs Cynradd TAR. Mae ganddi brofiad helaeth mewn cefnogi plant ysgol, yn academaidd a gyda’u lles emosiynol. Mae Cara yn ddwyieithog ac yn angerddol ynglŷn â sicrhau fod plant yn cael eu cefnogi yn eu dewis iaith.

Yn ddiweddar gweithiodd Cara ar brosiect TRAC 11-24 gyda phobl ifanc a oedd yn datgysylltu oddi wrth addysg ac mewn perygl o ddod yn NEET (heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant). Fel athrawes roedd Cara yn angerddol ynglŷn â chefnogi’r bobl ifanc hynny i ail ymgysylltu â dysgu drwy ddarparu gweithdai, ymyriadau grŵp a sesiynau 1:1.  Byddai Cara yn gwrando ar brofiadau personol ac anghenion y bobl ifanc ac yn cydlynu cefnogaeth o amgylch hyn. Mae Cara yn credu’n gryf mewn mabwysiadu ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn a sicrhau fod pob plentyn yn cael cyfleoedd cyfartal a chefnogaeth.

Mae Cara hefyd wedi gweithio o fewn tîm anableddau dysgu plant, lle bu’n cefnogi teuluoedd drwy rannu gwybodaeth a chyfathrebu gyda gwasanaethau eraill i sicrhau’r ffordd orau o ddiwallu anghenion plant. Mae’n angerddol ynglŷn â chael gwared ar rwystrau mewn addysg a sicrhau fod pob plentyn yn cael yr adnoddau i lwyddo!

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.