Am SSCE Cymru

Cwrdd â'r tîm

Cwrdd â'r tîm

SSCE Cymru Rheolwr Rhaglen

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Rheolwr y Rhaglen yn goruchwylio’r gwaith o gynllunio rhaglen SSCE Cymru yn strategol a chyflawni’r rhaglen.

Mae’r Rheolwr Rhaglen yn cefnogi plant y Lluoedd Arfog mewn addysg drwy’r dulliau canlynol: 

  • Cydlynu a darparu gweithgareddau SSCE Cymru sy'n  cyd-fynd â chenhadaeth SSCE Cymru.
  • Sicrhau bod profiadau plant Milwyr yn cael eu deall a'u hateb yng Nghymru.
  • Yn cynrychioli Cymru i rannu arfer da ar draws y DU.

SSCE Cymru Swyddog Arweiniol Cyfranogiad

O ganlyniad i gyllid a ddarparwyd i gychwyn gan Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog, fe ymunodd Swyddog Arweiniol Cyfranogi SSCE Cymru â’r tîm yn 2022.

Mae’r Swyddog Arweiniol Cyfranogi yn cydweithio gyda Rheolwr Rhaglen SSCE Cymru a’r Swyddogion Cyswllt Ysgolion i ddarparu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chynllun gwaith a ddatblygwyd ar y cyd ag aelodau Rhwydwaith SSCE Cymru. Mae’r cynllun gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion i ddeall profiadau ac anghenion plant y Lluoedd Arfog a sefydlu gweithgareddau a fydd yn sicrhau systemau cefnogaeth cynaliadwy.

Gall y Swyddog Arweiniol Cyfranogi weithio gydag ysgolion a’u cefnogi drwy’r dulliau hyn:

  • Gwrando ar blant Milwyr
  • Sefydlu clybiau plant Milwyr
  • Hwyluso cyfleoedd i blant milwyr ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau
  • Dathlu profiadau plant Milwyr
  • Rhannu lleisiau plant Milwyr.

Swyddogion Cyswllt Ysgolion

Sicrhaodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) gyllid gan Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog i benodi dau Swyddog Cyswllt Ysgolion ar gyfer prosiect dwy flynedd yn dechrau yn Ebrill 2024.

Mae’r Swyddogion Cyswllt Ysgolion yn cydweithio gyda Rheolwr Rhaglen SSCE Cymru a’r Swyddog Arweiniol Cyfranogi i ddarparu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chynllun gwaith a ddatblygwyd ar y cyd ag aelodau Rhwydwaith SSCE Cymru. Mae’r cynllun gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion i ddeall profiadau ac anghenion plant y Lluoedd Arfog a sefydlu gweithgareddau a fydd yn sicrhau systemau cefnogaeth cynaliadwy.

Gall y Swyddogion Cyswllt Ysgolion weithio gydag ysgolion a’u cefnogi drwy’r dulliau hyn:

  • Gweithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i adnabod plant 
    Milwyr a chynnal cronfa ddata o gysylltiadau ysgol.
  • Hyrwyddo pecyn e-ddysgu SSCE Cymru.
  • Gweithio gyda lleoliadau addysg i wreiddio cefnogaeth i blant 
    Milwyr:
    • Defnyddio adnoddau SSCE Cymru (Pecyn Cymorth ac Offer i 
    Ysgolion, Canllawiau ariannu)
    • Cyflawni eu statws Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru
    • Dathlu Mis y Plentyn Milwrol
    • Mynediad at gyllid i gefnogi plant a theuluoedd y Lluoedd Arfog.
  •  Adnabod a hyrwyddo arferion da mewn ysgolion.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.