Adnoddau

E-ddysgu

E-ddysgu

Wedi'i ariannu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, mae pecyn hyfforddi e-ddysgu SSCE Cymru wedi'i gynllunio i roi’r offer a'r hyder i addysgwyr ddeall a chefnogi anghenion plant y lluoedd arfog yn eu lleoliadau addysg yng Nghymru.  

Mae'r pecyn hyfforddi am ddim hwn yn cynnwys naw pwnc a bydd yn cymryd tua dwy awr i'w gwblhau. Bydd eich cynnydd yn cael ei arbed fel y gallwch barhau lle gwnaethoch adael ac ailedrych ar yr hyfforddiant yn ôl yr angen.

Bydd angen i chi greu cyfrif a chofrestru ar y cwrs ‘Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru’. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen adborth fer cyn y bydd eich tystysgrif ar gael i’w lawrlwytho.

Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd angen i'r rhai sy'n defnyddio cyfrifon 'hwbcymru' ryddhau eu e-bost gwirio cyfrif â llaw oherwydd ei bolisi hidlo.  

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi gyda chael mynediad at y pecyn e-ddysgu cysylltwch â SSCECymru@WLGA.gov.uk 

Dolenni gwych y byddaf yn eu defnyddio a chynhwysfawr iawn. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r fideos.

Roedd yn ddiddorol iawn i ddysgu am y profiadau symudedd, adleoli a phontio gwahanol y mae teuluoedd yn eu profi.

Roedd cael clywed gan y plant yn braf iawn.

Pynciau e-ddysgu SSCE Cymru

Cyflwyniad i SSCE Cymru

Y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Profiadau plant milwyr

Addysg yng Nghymru

Adnabod plant milwyr

Iechyd meddwl a lles

Gweithygareddau allgyrsiol

Cyllid i gefnogi plant milwyr

Ymchwil a thystiolaeth

Arolwg ysgolion SSCE Cymru (2019).

Dim ond 32% o'r holl ysgolion a nododd eu bod yn teimlo'n hyderus i gefnogi eu plant y Lluoedd Arfog gyda'u hanghenion unigryw.

Arolwg rhieni/gofalwyr plant y Lluoedd Arfog (2020).

Heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog: Cael dealltwriaeth o ffordd o fyw y Lluoedd Arfog nododd 81%.

UNCRC

Erthygl 3: Rhaid i oedolion wneud yr hyn sydd orau i mi.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.