Croeso i

Gwefan Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru

Trosolwg SSCE Cymru

Ein cenhadaeth

Gwybodaeth a thystiolaeth

Cydgysylltu gwaith ymchwil a chasglu tystiolaeth ar brofiadau plant sy'n gwasanaethu yn maes addysg i sicrhau bod dealltwriaeth dda o'u hanghenion.

Gweithgareddau ac adnoddau

Cydweithio ag aelodau rhwydwaith SSCE Cymru i gynnal gweithgareddau a chynhyrchu adnoddau a fydd yn helpu i gefnogi plant y Lluoedd Arfog ar hyd eu haddysg.

Polisi a Systemau Ategol

Gweithio gyda sefydliadau i roi tystiolaeth ac effaith polisi sy'n berthnasol i gefnogi plant mewn addysg.

Profiadau plant y Lluoedd Arfog

Digwyddiadau SSCE Cymru sydd ar ddod

gweler yr holl ddigwyddiadau sydd i ddod

Gŵyl y Lluoedd Arfog - DE

12/11/2025

Dyddiad: Dydd Mercher 12fed Tachwedd

Amser: 09:00 – 14:45

Lleoliad: Canolfan Wrth Gefn 203, Llandaf, Caerdydd

Byddai SSCE Cymru wrth ei bodd yn eich croesawu i'r Ŵyl Lluoedd Arfog AM DDIM.

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bob plentyn oedran ysgol gorfodol. Os ydych chi'n ysgol gyda llai na 10 o blant y Lluoedd Arfog, rydym yn hapus i blant y Lluoedd Arfog ddod â ffrind, ond gofynnwn i nifer y mynychwyr o'ch ysgol fod o leiaf 50% o blant y Lluoedd Arfog.

Bydd plant / pobl ifanc y Lluoedd Arfog yn cael eu grwpio yn ôl oedran ac yn cymryd rhan mewn pum gweithdy gwahanol sy'n canolbwyntio ar hanes, iechyd a lles, tasgau creadigol ac ymarferion adeiladu tîm.

Bydd gweithdai yng Ngŵyl Lluoedd Arfog De Cymru yn cael eu cyflwyno gan:

  • Forces Fitness
  • Never Such Innocence
  • Tîm Ymgysylltu â'r Fyddin
  • Support Paws
  • World War Wales

Bydd staff ysgol sy'n goruchwylio'r plant / pobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a rhwydweithio â'i gilydd, ynghyd â thîm SSCE Cymru ac aelodau cefnogol o'r awdurdod lleol.

Agenda

Croeso

09:00 - 09:45

Gweithdy 1

09:45 - 10:30

TORRI

10:30 - 10:50

Gweithdy 2

10:50 - 11:35

Gweithdy 3

11:35 - 12:20

CINIO

12:20 - 12:50

Gweithdy 4

12:50 - 13:35

Gweithdy 5

13:35 - 14:20

Adborth

14:20-14:35

Dylai disgyblion wisgo gwisg ysgol/cit addysg gorfforol ysgol a trainers a dod â'u pecyn cinio eu hunain. Mae parcio ar gael ar y safle. Bydd angen ffurflenni caniatâd ar gyfer yr holl gyfranogwyr, a bydd hyn yn cael ei anfon gyda rhagor o wybodaeth ar ôl eich archeb.

Cwblhewch y ffurflen gofrestru erbyn dydd Gwener 24 Hydref.

Cliciwch yma i gofrestru i fynychu

Mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

Os ydych chi'n wynebu unrhyw rwystrau mewn perthynas â theithio, cysylltwch â ni, gallwn edrych ar opsiynau i gefnogi gyda thrafnidiaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, plis cysylltwch â yasmin.todd@pembrokeshire.gov.uk

Gŵyl y Lluoedd Arfog - GOGLEDD ORLLEWIN

19/11/2025

Byddai SSCE Cymru wrth ei bodd yn eich croesawu i'r Ŵyl Lluoedd Arfog AM DDIM hon ar Ynys Môn.

Gŵyl y Lluoedd Arfog - GOGLEDD-DDWYRAIN

20/11/2025

Byddai SSCE Cymru wrth ei bodd yn eich croesawu i'r Ŵyl Lluoedd Arfog AM DDIM hon yn Sir y Fflint.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

Designed & built by eInfinity Limited. Hosting & IT management at eInfinity Tech.

This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.