This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion ac Awdurdodau Lleol Cyllid

Cyllid

Mae ysgolion ledled Cymru’n bod yn rhagweithiol iawn ac yn gwneud gwaith gwych i sicrhau nad yw plant Milwyr dan anfantais yn sgil bod yn rhan o un o deuluoedd y Lluoedd Arfog.

Cliciwch yma i weld enghreifftiau o arferion da.

Weithiau, mae angen i ysgolion ac Awdurdodau Lleol gael mynediad at gyllid ychwanegol er mwyn parhau i gefnogi plant Milwyr yn y ffordd fwyaf effeithiol. Roedd SSCE Cymru yn cydnabod nad yw bob amser yn rhwydd darganfod pa gyllid sydd ar gael, pa grantiau sydd fwyaf perthnasol i brosiect a beth yw’r ffordd orau o fynd ati i lenwi’r ffurflenni cais.

Arolwg Ysgolion SSCE Cymru (2019).

Pan ofynnwyd beth oedd y tair her fwyaf sylweddol yr oeddent yn wynebu wrth gefnogi plant milwyr, roedd ysgolion yn nodi: 25% Cyllid (gynradd).

Cyngor ar gyllid SSCE Cymru

Mae’r ddogfen hon yn darparu cyngor gan dîm SSCE Cymru i ysgolion ac awdurdodau lleol, i’w cynorthwyo wrth wneud cais am gyllid i gefnogi Plant y Lluoedd Arfog / cymuned leol y Lluoedd Arfog.

Cyngor cyffredinol yw hwn ac nid yw’n benodol ar gyfer unrhyw ffrwd ariannu benodol.

Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys rhestr wirio o gamau gweithredu a awgrymir i helpu wrth baratoi a chwblhau ffurflen gais am gyllid a rhestr o syniadau ac awgrymiadau am gyllid.

Lawrlwythwch y ddogfen cyngor SSCE Cymru yma

Cronfa Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg yng Nghymru (2024/25)

Gall ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru wneud cais am £1,000 neu £3,000 ar gyfer prosiect i gefnogi plant o deuluoedd y Lluoedd Arfog ym mlwyddyn academaidd 2023/24.

  • prosiectau £1,000 - ar agor i bob ysgol ac awdurdod lleol yng Nghymru.
  • prosiectau £3,000 - ar agor i ysgolion sydd wedi ennill Statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru a phob awdurdod lleol.

Gellir gwneud cais am yr arian hyd at 7 Chwefror 2025* a bydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd.

Cyfnodau/dyddiadau cau derbyn ceisiadau yw:

- 25 Hydref 2024
- 13 Rhagfyr 2024
- 7 Chwefror 2025.

*Gellir derbyn ceisiadau am £1,000 ar ôl 7 Chwefror 2025, os yw'r cyllid yn parhau i fod ar gael.

Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu o fewn 14 diwrnod o’r terfynau amser a nodir uchod.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma Cwestiynau yn y cais (sampl - Word) Ffurflen gais prosiect £1,000 Ffurflen gais prosiect £3,000

Cefnogaeth rheoli achosion SSCE Cymru

 

Beth yw diben y cyllid?

Cefnogi lleoliadau addysg i ddarparu ymyraethau ar gyfer plentyn unigol y Lluoedd Arfog neu nifer fechan o blant y Lluoedd Arfog (4-16 oed) ag anghenion penodol sy’n gysylltiedig ag effaith eu ffordd o fyw yn y Lluoedd Arfog.

Pwy sy'n gymwys?

  • Ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru.

Beth yw’r blaenoriaethau?

Ymyraethau sy’n cefnogi plant y lluoedd arfog i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â:

  • Lles cymdeithasol / emosiynol
  • Cyrhaeddiad academaidd

Dyddiad Cau Ceisiadau: Ar gael trwy gydol y flwyddyn.

Rhagor o wybodaeth yma

Cyllid arall

Cewch ragor o wybodaeth a chyngor am y ffrydiau ariannu hyn yn y ddogfen cyngor ariannol SSCE Cymru

Rhaglen Cefnogi Disgyblion y Lluoedd Arfog

Mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn caiff y rhaglen hon ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef elusen sy’n cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog trwy ddarparu rhaglenni cyllid sy’n creu newid go iawn i gymunedau’r Lluoedd Arfog ledled y DU.

Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog: Grantiau Cyfunol

Ariennir y rhaglen hon gan Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog (AFET), elusen sy’n gweithio i blant ac oedolion ifanc y mae eu haddysg yn cael ei gyfaddawdu neu ei roi mewn perygl o ganlyniad i wasanaeth eu rhieni i’r lluoedd arfog nawr neu yn y gorffennol.

Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog: Rhaglen ‘Force for Change’

Caiff y rhaglen hon ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef elusen sy’n cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog trwy ddarparu rhaglenni cyllid sy’n creu newid go iawn i gymunedau’r Lluoedd Arfog ledled y DU.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan