Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl sy'n sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg.
Ei ddwy egwyddor yw, gan gydnabod rhwymedigaethau unigryw'r Lluoedd Arfog ac aberthau a wneir gan:
- Ni ddylai'r rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, boed yn rheolaidd neu'n filwyr wrth gefn, y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, na'u teuluoedd, wynebu anfantais o'i gymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol
- Mae ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi'r mwyaf megis y rhai sydd wedi'u hanafu a'r rhai mewn profedigaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am ba gymorth a ddarperir ar hyn o bryd a phwy mae'r Cyfamod yn berthnasol iddo ar gael yma.
Dyluniwyd modiwl hyfforddi e-ddysgu gan Gyngor Sir Warwick i godi ymwybyddiaeth o gymuned y Lluoedd Arfog a Chyfamod y Lluoedd Arfog. Mae'r hyfforddiant hwn hefyd ar gael yn Gymraeg ac mae ar gael yma.