This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Adnoddau Little Troopers virtual workshop

Little Troopers virtual workshop

Bydd y gweithdy ar-lein rhad ac am ddim yn dod â Phlant y Lluoedd Arfog sydd mewn sefyllfa debyg at ei gilydd i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd unigryw maen nhw’n eu profi fel aelodau o gymuned Lluoedd Arfog Prydain, a dathlu beth mae’n ei olygu i fod yn ‘Little Trooper’. Mae’r sesiwn wedi’i recordio o flaen llaw fel digwyddiad ‘byw’, a chaiff ei darparu gan dîm profiadol o hwyluswyr gan ddefnyddio adnoddau ysgol gynradd Little Troopers sy’n cynnwys adrodd straeon, symudiad, trafodaethau grŵp a chwarae rôl. Mae’r gweithdy ar gael i holl Blant y Lluoedd Arfog oed cynradd yn eich lleoliad, ac mae’n addas ar gyfer grwpiau o unrhyw faint.

 

Deilliannau

Y nod yw i’ch Plant y Lluoedd Arfog adael y sesiwn yn teimlo’n falch o’u hunaniaeth a theimlo fel bod eu hamgylchiadau unigryw a’u profiadau bywyd wedi’u cydnabod a’u deall. Bydd eich ysgol hefyd yn cael gwybodaeth ddefnyddiol i gynorthwyo â chefnogi Plant y Lluoedd Arfog yn barhaus yn eich lleoliad.

Dod â phlant at ei gilydd

Mae’r gweithdy hwn wedi’i greu gyda phob Plentyn y Lluoedd Arfog oed cynradd mewn cof, sy’n golygu y gellir ei ddarparu i grwp mawr o blant o wahanol oedrannau yr un pryd. Mae hyn yn rhoi cyfle i blant y Lluoedd Arfog na fyddent fel arfer yn cysylltu â’i gilydd, rannu eu profiadau a chydnabod nad ydynt ar eu pen eu hunain. Ymhellach, mae’r gweithdy wedi’i drefnu fel y bydd eich disgyblion yn mewngofnodi yr un pryd â phlant eraill y Lluoedd Arfog ar draws Cymru. Bydd hyn yn helpu’r gweithdy i deimlo mwy fel ‘digwyddiad’ cyffrous sy’n dod â phlant at ei gilydd a rhoi teimlad o berthyn iddynt.

Anrhegion i’r plant

Bydd pob plentyn sy’n mynychu yn cael llyfr stori Little Troopers, tystysgrif, sticer, pecyn o hadau blodau gwyllt a nwyddau SSCE Cymru.

Gwnes i fwynhau’r gweithdy’n fawr; roedd yn braf gwybod nad ydym ni ar ein pen ein hunain. Roedd yn dda clywed bod rhai eraill ar draws y byd sy’n teimlo fel hyn. Dw i’n falch bod pobl yn yr ysgol sy’n ein helpu ni.

Gwnaeth pawb fwynhau’r gweithdy’n fawr, yn enwedig chwarae rôl wrth greu ystafell gard. Roedd llawer o chwerthin a hwyl.

Mae’r plant wedi elwa o’r gweithdy hwn ac edrychwn ymlaen at rannu eu profiad gydag athrawon a ffrindiau o’u siwrneiau symud tai ac ysgolion yn y gorffennol.

Paratoi ar gyfer eich gweithdy…

Rhowch wybod pryd fyddwch yn cynnal eich gweithdy ar-lein er mwyn i ni fedru anfon:

  • Llyfrau stori y bydd angen i’r plant eu defnyddio fel rhan o’r sesiwn
  • Pecyn o hadau blodau gwyllt i roi i bob plentyn fel anrheg
  • Nwyddau SSCE, gan gynnwys beiros a sticeri.

Recordiadau o’r gweithdai:

Mae’r gweithdai wedi cael eu recordio ymlaen llaw, ond byddant yn ymddangos yn ‘fyw’, felly bydd modd i chi eu gwylio ymlaen llaw pe dymunech.  Dewiswch pa un o’r gweithdai canlynol sydd fwyaf addas ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog yn eich lleoliad.  Mae’r mwyafrif o’r cynnwys yn y gweithdai hyn yr un fath, gan eithrio’r gweithgaredd chwarae rôl.

Little Troopers: Gweithdy’r Llynges
Little Troopers: Gweithdy’r Fyddin
Little Troopers: Gweithdy’r Awyrlu Brenhinol

Cofiwch lawrlwytho ac argraffu’r canlynol cyn y gweithdy:

Canllawiau’r Hwylusydd
Taflen waith Archarwr 1
Taflen waith Archarwr  2
Taflen waith adrodd stori (2 dudalen)
Tystysgrif

1/3:

Navy roleplay pack
Army roleplay pack
RAF roleplay pack

Beth fydd ei angen arnoch yn ystod y gweithdy:

  • Cysylltiad da â’r rhyngrwyd
  • Sgrîn fawr y gall yr holl blant ei gweld – gorau po fwyaf
  • Digon o le i’r plant allu gwasgaru a symud o gwmpas
  • Pensiliau a chreonau lliw – bydd y creonau hyn yn cael eu defnyddio i’r plant fynegi eu emosiynau yn ystod un o’r gweithgareddau, felly sicrhewch bod digon o ddewis ar gael  iddynt – e.e. coch, du, glas, melyn
  • Adnoddau (y byddwn ni yn eu darparu)
  • Nodiadau hwyluswyr er mwyn eich cynorthwyo i gefnogi’r plant drwy gydol y gweithdy (y byddwn ni yn eu darparu)
  • Does dim angen gwe-gamera arnoch.

Lluniau

Byddem wrth ein bodd o weld lluniau o’r plant yn cymryd rhan ar y diwrnod. Anfonwch bob llun at pr@littletroopers.net SSCECymru@WLGA.gov.uk cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl y digwyddiad, er mwyn i ni allu eu rhannu ar y diwrnod. Byddem wrth ein bodd o weld:

  • Lluniau o ddarluniau’r plant o archarwyr (perffaith ar gyfer ysgolion lle mae angen i blant aros yn ddienw)
  • Lluniau o grwpiau o blant yn gwenu ar y camera
  • Lluniau o blant yn cymryd rhan yn y gêm gynhesu
  • Lluniau o blant yn tynnu llun / llenwi taflenni gwaith
  • Lluniau o blant yn gwneud ystum archarwr
  • Lluniau o blant yn cymryd rhan yn eu gweithgaredd chwarae rôl eu hunain

Caiff lluniau a anfonir atom eu defnyddio ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a chânt eu hanfon i’r cyfryngau o bosibl.  Felly, sicrhewch mai dim ond lluniau o blant y mae eu rhieni wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio lluniau ohonynt y byddwch chi’n eu hanfon atom. Os na fydd rhieni wedi llenwi pob rhan o’r ffurflen, peidiwch ag anfon lluniau o’r plant hyn atom, os gwelwch yn dda.

Ffurflen ganiatâd y cyfryngau

Cwestiynau Cyffredin

A all plant nad ydynt yn blant y Lluoedd Arfog / plant sifilaidd fynychu’r sesiynau?
Na. Mae’r sesiynau wedi’u dylunio i fod yn fan diogel i blant y Lluoedd Arfog archwilio eu profiadau o fywyd milwrol, ac felly ni fyddai’n briodol i blant nad ydynt yn blant y Lluoedd Arfog fynychu.

Pa fath o le sydd ei angen arnom i redeg y sesiwn?
Rydym yn awgrymu defnyddio teledu mawr neu sgrin taflunydd y gall y plant i gyd ei weld. Mae angen i chi ganiatáu lle i symud, chwarae rôl a chymryd rhan mewn gweithgareddau taflenni gwaith hefyd. Mae i fyny i chi sut byddwch chi’n gosod yr ystafell. Bydd grwpiau llai yn iawn mewn ystafell ddosbarth. Efallai byddai grwpiau mwy yn well mewn neuadd.

A oes angen i ni droi ein camerâu gwe ymlaen?
Na. Mae’r digwyddiad wedi’i recordio o flaen llaw fel digwyddiad ‘byw’. Mae hyn yn golygu y bydd yn edrych fel digwyddiad byw, ond ni fyddwn ni’n gallu gweld na chlywed y plant.

Pwy ddylem ni gysylltu â nhw os bydd gennym unrhyw broblemau ar y diwrnod?
Gallwch anfon e-bost at SSCECymru@wlga.gov.uk

A oes angen i athro/athrawes / cymhorthydd addysgu fod yn bresennol?
Oes. Byddem yn awgrymu bod o leiaf dau aelod o staff yn mynychu’r sesiwn oherwydd mae angen cefnogaeth yn y sesiwn i ddosbarthu taflenni gwaith, annog y plant i sefyll / eistedd yn y lle iawn, a bydd cyfnod o ddeg munud lle anogir plant i gymryd rhan yn eu gweithgaredd chwarae rôl eu hunain.

 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan