This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ymchwil Data

Pam cofnodi data ar blant Milwyr

  • Data yw'r allwedd i ddeall effaith bywyd yn y Lluoedd Arfog ar blant Milwyr
  • Gall ysgolion fod wedi paratoi’n well i gefnogi plant Milwyr
  • Gellir gwneud cymariaethau o ran lefelau cyrhaeddiad rhwng plant Milwyr a phlant nad ydynt yn blant Milwyr
  • Gellir canfod patrymau o ran absenoldeb o'r ysgol
  • Gall awdurdodau lleol baratoi i gefnogi plant milwyr o ran eu hiechyd meddwl a'u hanghenion o ran lles
  • Gall asiantaethau ddarparu cefnogaeth a nodi lle mae yna fylchau o ran darpariaeth
  • Gellir targedu adnoddau i gefnogi anghenion penodol mewn lleoliadau daearyddol gwahanol
  • Gellir cynnal ymchwil pellach gyda grŵp cynhwysol o gyfranogwyr

Yn Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru 2019, fe wnaeth Kirsty Williams AC, y Gweinidog dros Addysg yr ymrwymiad i gasglu data ar blant Milwyr yng Nghymru. Mae SSCE Cymru a Chyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithredu’r newid hwn.

Diffiniad Llywodraeth Cymru o blentyn y Lluoedd Arfog:

Mae gan 'blentyn y Lluoedd Arfog' riant (rhieni) neu unigolyn (unigolion) gyda chyfrifoldeb rhiant gweithredol sydd yn bersonél y Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu:

  • Yn Lluoedd Arfog Rheolaidd neu Wrth Gefn Ei Mawrhydi - Y Llynges Frenhinol a'r Môr-filwyr Brenhinol; Y Fyddin Brydeinig a'r Llu Awyr Brenhinol, Neu
  • Yn gyn-filwr y Lluoedd Arfog sydd wedi bod mewn gwasanaeth o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, Neu
  • Bu farw un o'u rhieni wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac mae'r dysgwr wedi derbyn pensiwn o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu'r Cynllun Pensiynau Rhyfel.

Mae SSCE Cymru hefyd yn annog ysgolion i ystyried adnabod plant a phobl ifanc nad ydynt yn disgyn o fewn y diffiniad uchod ond sydd â chysylltiad â'r Lluoedd Arfog.

Arolwg rhiant/gofalwr Gwasanaeth (2020).

Yr heriau sy’n wynebu ysgolion wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog: 58% Adnabod plant y Lluoedd Arfog.

Arolwg rhiant/gofalwr Gwasanaeth (2020).

Systemau cefnogi a fyddai’n elwa plant y Lluoedd Arfog: 61% Nodi plant y Lluoedd Arfog yn ystod y broses dderbyn.

Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous.

Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Cymru: Astudiaeth o Ddata a’r Ddarpariaeth o ran Cefnogaeth yng Nghymru (2015)

Wedi ei gomisiynu gan SSCE Cymru a’i reoli gan Uned Ddata Cymru fe arweiniodd yr adroddiad hwn at gynnal cyfweliadau gydag ysgolion ar draws Cymru a chanfuwyd mai ychydig iawn o ddata oedd ar gael, gan ddangos yr angen am fwy o wybodaeth ac arweiniad i alluogi ysgolion i gasglu data a chael mynediad at gefnogaeth.

Yr hyn roedd yr adroddiad yn ei ganfod, wedi ei seilio ar y data mwyaf diweddar o’r cyfrifiad (2011), yw fod yna deuluoedd milwyr gyda phlant hyd at 16 oed ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae data cyfrifiad 2011 yn dangos isafswm o 2,486 o blant yng Nghymru lle roedd Person Cyswllt y Cartref yn nodi ei fod ef neu hi yn y Lluoedd Arfog. Nid yw hyn yn cynnwys gwybodaeth lle mae’r sawl nad yw’n Berson Cyswllt  y Cartref yn y Lluoedd Arfog, na gwybodaeth ar gyn-filwyr neu filwyr wrth gefn neu lle nad yw teuluoedd gyda phlant Milwyr yn byw yn yr un cyfeiriad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn yma

Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Gweithiodd SSCE Cymru gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal gweithgaredd casglu data, i roi cipolwg ar nifer a lleoliad plant Milwyr yng Nghymru ym mis Awst 2023.

 

Cliciwch ar enw awdurdod lleol i weld y data.

Ynys Mon Conwy Sir Ddinbych Sir y Fflint Gwynedd Wrecsam Powys Ceredigion Sir Gaerfyrddin Sir Benfro Abertawe Castell-nedd Port Talbot Pen-y-bont ar Ogwr Rhondda Cynon Taf Merthyr Tudful Blaenau Gwent Caerffili Tor-faen Caerdydd Casnewydd Bro Morgannwg Sir Fynwy

At pwrpas yr ymarfer casglu data, Mae SSCE Cymru yn annog awdurdodau lleol ac ysgolion i adnabod plant milwyr gan ddefnyddio dau ddiffiniad (gweler uchod), y data a ddarperir yn y map gwres yw cyfanswm y ddau ddiffiniad, lle y'u darparwyd. Mae'r data hefyd yn cynnwys ysgolion annibynnol yng Nghymru.

  Nifer y Plant Lluoedd Arfog
Awdurdod lleol Cyfanswm nifer yr ysgolion Ysgolion â phlant y Lluoedd Arfog Diffiniad 1* Diffiniad 2** Cyfanswm
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 29 9 34 1 35
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 60 35 122 50 172
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 85 16 44 27 71
Cyngor Caerdydd 124 24 71 0 71
Cyngor Sir Gar 111 48 142 23 165
Cyngor Sir Ceredigion 48 16 39 10 49
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 66 21 93 42 135
Cyngor Sir Ddinbych 55 21 25 28 53
Cyngor Sir y Fflint 79 19 56 30 86
Cyngor Gwynedd 96 6 26 1 27
Cyngor Sir Ynys Mon 46 15 72 19 91
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 29 14 68 0 68
Cyngor Sir Fynwy 34 16 66 10 76
Cyngor Castell-nedd Port Talbot 62 27 49 35 84
Cyngor Dinas Casnewydd 57 32 81 91 172
Cyngor Sir Penfro 62 26 216 90 306
Cyngor Sir Powys 95 30 190 33 223
Cyngor Rhondda Cynon Taf 115 55 231 0 231
Cyngor Abertawe 94 36 75 46 121
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen 33 20 43 4 47
Cyngor Bro Morgannwg 55 30 312 0 312
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 69 18 39 14 53
    534 2094 554 2648

* data cywir ym mis Awst 2023

 

Rhoi gwybod i SSCE Cymru am y plant Milwyr sydd yn eich ysgol

Helpwch ni i gasglu data ar nifer a lleoliad plant milwyr yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cael y gefnogaeth orau bosibl i blant y Lluoedd Arfog.  
 
Gall ysgolion ddefnyddio'r templed canlynol: llythyr at rieni ar adran SSCE Cymru Tools ar ein gwefan  
 
Sylwch, drwy lenwi'r ffurflen hon, cewch eich ychwanegu at rwydwaith SSCE Cymru. Bydd SSCE Cymru yn rhannu manylion unrhyw ddigwyddiadau, cyllid, bwletin ysgol ac adnoddau a chymorth sydd ar gael gan dîm SSCE Cymru.

Cliciwch yma i lenwi ein ffurflen ar-lein

 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan