This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Uwchradd

Ysgol Uwchradd Llanwrtyd Fawr (Bro Morgannwg) - Defnydd effeithiol o arian i gefnogi plant y Lluoedd arfog

Ysgol Uwchradd Llanwrtyd Fawr (Bro Morgannwg) - Defnydd effeithiol o arian i gefnogi plant y Lluoedd arfog

Mae Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr wedi’i lleoli’n agos at Faes Awyr Sain Tathan ac mae gan y rhan fwyaf o blant aelodau’r lluoedd arfog o leiaf un rhiant yn gwasanaethu ar hyn o bryd.

Mae rhai teuluoedd wedi ymgartrefu yn yr ardal gyda’r rhiant yn teithio oddi yma i’w man gwaith neu o bosib i ffwrdd yn gweithio yn ystod yr wythnos.   Mae hyn yn caniatáu parhad ar gyfer addysg eu plant.  Ar hyn o bryd nid oes llawer yn gwasanaethu mewn parthau rhyfel, felly gall rhieni a’u plant fod wedi’u gwahanu oherwydd yr angen i gymudo, lleoliad eu man gwaith, mynychu hyfforddiant ac ymgymryd â thasgau eraill cysylltiedig â’r gwasanaeth.  Mae teuluoedd fel arfer yn symud oherwydd bod y rhiant sy’n gwasanaethu’n cael ei symud i leoliad arall (ychydig yn symud ar y tro) a gall rheini fod yn amharod i rannu gwybodaeth am eu lleoliad gyda’r ysgol.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr wedi gwneud amryw o geisiadau llwyddiannus am arian o Gronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth Gyfiawnder(MOD), Cronfa Cefnogi Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru a Chronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog – grantiau bach.  Drwy adnabod, olrhain a monitro dysgu a chynnydd plant yn ofalus iawn, dynodwyd amrywiaeth o strategaethau cymorth sy’n cael dylanwad gadarnhaol ar ddysgu ac iechyd meddwl a lles plant a thrwy hynny’n eu galluogi i

Nifer y plant o deuluoedd y lluoedd arfog yn Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr: 91 (9%)

Astudiaeth achos a gwblhawyd gan : Leanne Pownall (Dirprwy Bennaeth), Hayley Marshally (Cydlynydd MOD)

Adroddiad Estyn 2017

"Mae’r ysgol yn darparu cefnogaeth fuddiol sy’n cynnal lles disgyblion ac yn annog eu hymgysylltiad llwyddiannus ym  mywyd yr ysgol a’r gymuned ehangach."

Pa strategaethau y mae Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr yn eu defnyddio er mwyn dylanwadu ar gynnydd plant teuluoedd y lluoedd arfog yn eu hysgol? 

1. Staffio
2. Clybiau a Gweithgareddau
3. Iechyd Meddwl a Lles
4. Cysylltiadau â’r Lluoedd arfog a’r gymuned leol.

1.    Sut y mae Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr yn defnyddio staff i gefnogi plant aelodau’r Lluoedd Arfog?

  • Y Dirprwy Brifathro - yn cefnogi datblygiad anghenion plant aelodau’r Lluoedd Arfog, yn goruchwylio camau gweithredu ochr yn ochr â chydlynydd yr MOD
  • Pennaeth Blwyddyn Saith hefyd yn Gydlynydd MOD, rôl sy’n cynnwys: gwybod pwy yw plant y Lluoedd Arfog ar draws yr ysgol, olrhain a monitro cynnydd y grwpiau o blant a ddynodir a sicrhau bod strategaethau a gweithgareddau cefnogi yn eu lle sy’n dylanwadu’n gadarnhaol ar ddysgu, iechyd meddwl a lles disgyblion. Maent hefyd yn cefnogi’r flwyddyn saith newydd yn ystod y cyfnod pontio o flwyddyn chwech yn yr ysgolion clwstwr
  • Un Cymhorthydd Cefnogi Dysgu (CCD) yn darparu cymorth ar draws yr ysgol ac i’r ysgolion cynradd clwstwr gyda chefnogaeth.
  • Dau CCD yn cefnogi’r holl ddisgyblion, yn cynnwys plant aelodau’r Lluoedd Arfog, plant sy’n derbyn ymyriadau e.e. dysgu, iechyd meddwl a lles.  Mae’r CCA hyn wedi’u hyfforddi mewn Llythrennedd Emosiynol (ELSA) ac yn darparu hyn mewn grwpiau 1:1.

2. Pa glybiau a gweithgareddau mae Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr yn eu darparu?

  • Mae aelod o staff y Coleg Ysgogiadol, Paratoadol ar gyfer Hyfforddiant (MPCT) yn gweithio’n rheolaidd ar draws yr ysgol gyda’r holl fyfyrwyr gan ddarparu clwb amser cinio, ymyraethau yn y dosbarth a chlwb ar ôl ysgol.  Bydd plant yn gweithio drwy glwb arweinyddiaeth tuag at gymhwyster ac mae MCPT yn darparu cymorth gyda’r rhaglen bontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn Saith
  • Mae Clwb MKC Heroes yn rhedeg clwb amser cinio ar gyfer plant aelodau’r lluoedd arfog
  • Mae amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau haf a gaeaf ar gael, yn cynnwys cyrsiau preswyl ac mae MCPT yn rhoi cefnogaeth gyda rhai o'r digwyddiadau hyn
  • Mae myfyrwyr chweched dosbarth yn tiwtora’r disgyblion iau yn ôl yr angen mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth am dâl, gyda goruchwyliaeth aelod o staff
  • Mae llysgenhadon yr MOD (disgyblion) yn cynorthwyo gyda gweithgareddau a digwyddiadau pontio
  • Mae’r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu harddangos ar fwrdd yr MOD yng nghoridor yr ysgol ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd
  • Rydym yn sicrhau bod plant aelodau’r Lluoedd Arfog yn cael y gefnogaeth a’r mewnbwn sydd eu hangen arnynt mewn modd amserol, pan fo’u hangen ac mae dealltwriaeth o anghenion plant aelodau’r lluoedd arfog ar draws y gwasanaeth.

3. Sut mae Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr yn cefnogi iechyd meddwl a lles plant?

  • Bydd yr athrawon neu’r pennaeth blwyddyn yn cyfeirio’r disgybl at gydlynydd yr MOD ar ôl adnabod eu hanghenion, a byddant wedyn yn cyfathrebu â’r plentyn a'r rhiant ac yn cynnig y gefnogaeth sydd ar gael
  • Mae Catherine Child, gweithiwr Datblygu Cymunedol o'r safle milwrol lleol, eisoes yn gweithio gyda nifer o deuluoedd y lluoedd arfog ac yn rhoi cefnogaeth â gweithgareddau a digwyddiadau gyda phlant sydd angen cymorth emosiynol
  • Mae’r ysgol yn deall ei bod yn anodd i deuluoedd fynd ar wyliau gyda’i gilydd ac yn ystyried hynny pan fydd rhieni’n gwneud cais i’w plentyn gael amser i ffwrdd o’r ysgol.
  • Gall plant teuluoedd lluoedd arfog a phlant eraill fynychu digwyddiadau a gweithgareddau ar hyd y flwyddyn
  • Mae cefnogaeth ELSA ar gael mewn grwpiau 1:1
  • Mae sesiynau galw heibio gyda’r Cydlynydd MOD ar gael bob dydd, fel sy’n ofynnol
  • Mae llysgenhadon yr MOD ar gael i roi cefnogaeth gyda phlant iau – dan arweiniad y Cydlynydd MOD
  • Mae staff yn cymryd amser i ddod i adnabod plant wrth iddynt symud o’r clwstwr ysgolion cynradd lleol i’r ysgol uwchradd
  • Mae llyfrau cymorth ar gael – mae’r plant wedi gofyn am lyfrau gwahanol i’w benthyg o’r llyfrgell, sef llyfrau’n benodol ar gyfer plant y Lluoedd Arfog sy’n cael eu cadw yn ardal y Cydlynydd MOD 
  • Mae’r ysgolion hefyd yn deall na fydd rhai plant angen cefnogaeth ac y byddant yn defnyddio eu strategaethau ymdopi eu hunain i ddelio gyda'r heriau y byddant yn eu hwynebu. Mae sicrhau bod plant yn deall pa gefnogaeth a chyngor sydd ar gael iddynt pe baent eu hangen yn rhywbeth creiddiol y mae’r ysgol yn canolbwyntio arno i bob plentyn, nid  dim ond plant aelodau’r lluoedd arfog.

4. Sut mae meithrin cysylltiadau gyda chymuned y Lluoedd Arfog?

  • Presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol lleol megis Caeau Cofio, gyda chynrychiolwyr digwyddiadau cymunedol yn mynychu
  • Digwyddiadau codi arian elusennol, diwrnod coch gwyn a glas ac apêl y pabi coch
  • Cynrychiolwyr yn mynychu cyfarfodydd fforwm y lluoedd arfog 
  • Cysylltiadau â HiVE i ddarparu gwybodaeth
  • Cysylltiadau â sefydliad cefnogi Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin
  • SSCE Cymru – presenoldeb mewn dyddiau Rhanddeiliaid, cymorth gyda datblygu adnoddau, defnydd rheolaidd o’r wefan, adnoddau a gwybodaeth.
  • Sut mae Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr yn cydweithio ag eraill?
    Mae rhaglen bontio wedi’i sefydlu gyda’r rhwydwaith ysgolion cynradd lleol, dan arweiniad yr arweinydd Blwyddyn 7
  • Digwyddiadau pontio ar gyfer ysgolion cynradd lleol  - Blwyddyn 6 a 7 gydol y flwyddyn.
  • Clwstwr ysgolion lleol cynradd – trafodaethau gyda’r Pennaeth ar yr hyn sy’n angenrheidiol, pa gyllid i wneud cais amdano, mae cyllid yn benderfyniad a y cyd rhwng pob ysgol gynradd leol.
  • Pa gyngor fyddai Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr yn ei roi i ysgolion eraill er mwyn sicrhau cais llwyddiannus am gyllid?
    Cysylltu bob amser ag unigolyn cyswllt/rhwydwaith milwrol lleol i gael cefnogaeth a chyngor wrth wneud cais am gyllid –mae cysylltiadau cryf yn hynod o bwysig
  • Cyswllt â’r unigolyn cyswllt yn y Lluoedd Arfog Lleol er mwyn cael cefnogaeth ac er mwyn gallu mynychu cyfarfodydd perthnasol ar y cyd
  • Ystyried ceisiadau am gyllid yn barhaus, adolygu’r hyn sy’n gweithio’n dda yn eich ysgol a pha strategaethau eraill fyddai modd eu hariannu er mwyn sicrhau’r effaith mwyaf.

 

Adborth Rhieni


“Mae ymatebion plant i’r heriau y maent yn eu hwynebu’n wahanol i bob unigolyn, maent yn delio â’u hemosiynau’n wahanol”

“Mae ar bob ysgol angen sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o anghenion yr ysgol, pa sefyllfaoedd all godi a pha gefnogaeth y bydd y disgyblion o bosibl ei hangen.”

“Er nad yw’r lluoedd arfog yn uchel eu proffil yn y newyddion ar hyn o bryd, mae plant o’r teuluoedd hyn yn dal i orfod ymdopi â chael eu gwahanu oddi wrth un o’u rhieni, neu’r ddau, ac mae angen i’r ysgolion fod yn ymwybodol o hyn.”

“Mae profion cyrhaeddiad rheolaidd yn yr ysgol yn cefnogi anghenion y plant ac yn amlygu’r hyn y mae angen canolbwyntio arno.”

 

 Dyddiad cynhyrchu: Rhagfyr 2019

 

 

 

Ysgolion Uwchradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim