Mae SSCE Cymru yn deall y byddwch o bosibl wedi wynebu profiadau unigryw adref ac yn yr ysgol oherwydd bod un o’ch rhieni, neu’r ddau, yn gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Mae’n bosib y byddwch wedi byw dramor, wedi symud ysgol a symud ty ynghanol y flwyddyn, wedi gorfod gwneud ffrindiau newydd, wedi gorfod ymdopi â’ch rhieni/rhiant yn mynd i ffwrdd i weithio neu wedi gorfod cefnogi ffrind drwy un o’r profiadau hyn. Mae llawer o’r profiadau bywyd hyn y gallu bod yn gyffrous ac yn ddiddorol ond maen nhw hefyd yn gallu bod yn heriol. Mae pob plentyn yn delio gyda’r emosiynau maen nhw’n eu teimlo yn ystod y profiadau hyn mewn ffyrdd gwahanol.
Pwrpas rhaglen SSCE Cymru yw sicrhau bod athrawon a staff mewn ysgolion yng Nghymru yn deall pa brofiadau a heriau y byddwch o bosibl wedi eu hwynebu o ganlyniad i’r ffordd y mae teuluoedd y Lluoedd Arfog yn byw. Mae SSCE Cymru yn darparu adnoddau sy’n helpu ysgolion i gefnogi plant aelodau’r Lluoedd Arfog er mwyn sicrhau eu bod yn cael y profiadau mwyaf cadarnhaol wrth fynychu ysgol neu ysgolion yng Nghymru.