Nifer Plant y Lluoedd Arfog yn Ysgol Bassaleg: 12 (1%)
Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan: Ben Lane, Cyfarwyddwr Safonau, Iechyd a Lles
Estyn 2018
"Mae rhaglen tiwtora’r ysgol yn agwedd rhagorol ar ei gwaith. Mae’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau o ran iechyd meddwl, addysg perthnasoedd a rhywioldeb, meithrin cadernid, ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol, ymchwil bresennol a barn disgyblion a staff. Mae hyn yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddisgyblion archwilio a datblygu eu gwerthoedd moesegol a chymdeithasol. Mae’r ddarpariaeth hon wedi’i hintegreiddio’n ofalus i’r rhaglen ysgol gyfan ar gyfer addysg bersonol, cymdeithasol ac iechyd a chaiff ei chefnogi’n effeithiol gan feysydd y cwricwlwm."
1. Profiadau plant y Lluoedd Arfog
2. Rôl y Cyfarwyddwr Lles
3. Adnabod a chefnogi
4. Mesur effaith a llwyddiant
1. Beth yw profiadau plant y Lluoedd Arfog yn Ysgol Bassaleg?
Mae plant y lluoedd arfog wedi cael gwahanol brofiadau o gael eu magu mewn gwahanol leoedd o amgylch y byd ac yn aml bydd ganddynt sgiliau i helpu plant eraill i feithrin cyfeillgarwch. Maen nhw’n grwp amrywiol, sy’n meddu ar lawer o sgiliau fel goddefgarwch oherwydd eu ffordd o fyw.
Mae’r heriau gallai plant y Lluoedd Arfog eu hwynebu o ran addysg yn cynnwys:
- Mae pob plentyn yn wahanol ac mae ganddynt anghenion gwahanol
- Materion cymdeithasol ac emosiynol sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw y teulu’r Lluoedd Arfog, e.e. delio ag adleoli, gwahanu a newidiadau i’r uned deuluol
- Heriau addysgol fel bylchau mewn dysgu, o ganlyniad i symud o gwmpas
- Mae rhai plant wedi cael problemau dicter ac wedi bod yn ypset, a’i chael yn anodd delio â’u hemosiynau
- Mae rhai plant yn ei chael yn anodd setlo a gwneud ffrindiau wrth iddynt ymuno â’r ysgol
- Bydd plant newydd yn newid deinameg grwp/dosbarth neu garfan
2. Beth yw rôl eich Cyfarwyddwr Safonau, Iechyd a Lles?
- Cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer iechyd a lles. Gan gynnwys y Meysydd Profiad Dysgu iechyd a lles newydd, ei weithrediad ar draws y cwricwlwm cyfan a sesiynau amser dosbarth dyddiol. Ein nod yw cynnwys ‘Pedwar Pwrpas’ y cwricwlwm newydd trwy feithrin cadernid yn ein pobl ifanc a darparu gwybodaeth a chyfleoedd iddynt fod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, medrus, sy’n barod i ddysgu drwy eu bywydau
- Cyfranogwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Dinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
- Unigolion iach, hyderus, yn barod i arwain bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas
- Gweithio gydag amrywiaeth o fudd-ddeiliaid i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i’n pobl ifanc a’u haddysgu am faterion sy’n ymwneud ag iechyd a lles
- Cynnal arolygon gyda disgyblion a defnyddio llais y disgybl i weld pa ymyriadau sydd angen eu gweithredu
- Cyfeirio at help a chefnogaeth berthnasol yn fewnol a thrwy ddefnyddio budd-ddeiliaid allanol
Estyn 2018
"Mae gan yr ysgol systemau olrhain cryf ac effeithiol ar waith i fonitro cynnydd, ymddygiad a lles disgyblion unigol a grwpiau o ddysgwyr ar bob cyfnod allweddol, gan gynnwys y rhai sy’n cael darpariaeth amgen. Mae’n defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i fonitro cynnydd disgyblion a thargedu cefnogaeth ychwanegol."
3. Sut mae’r ysgol yn adnabod plant y Lluoedd Arfog a’u cefnogi i oresgyn unrhyw heriau?
Wrth gyrraedd
Mae’r Cyfarwyddwr Lles yn cymryd cyfrifoldeb am sefydlu’r plant newydd i gyd, gan gynnwys plant y Lluoedd Arfog. Byddwn yn trefnu cyfarfod gyda’r teulu, gyda’r plentyn a threfnu sesiwn ddilynol i adolygu’r cyfnod sefydlu.
Cymorth yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol
- Ni thynnir sylw at blant y Lluoedd Arfog. Byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y ddarpariaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i blant, fel grwp neu unigolyn.
- Rydym yn sicrhau’n rheolaidd bod aelod o staff yn cyfathrebu â’r cartref fel bo angen.
- Mae gan yr ysgol raglen o asesiadau amrywiol i nodi anghenion a chryfderau plant.
- Rydym yn cynnal adolygiadau disgyblion rheolaidd ar draws pob pwnc, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, mae hyn yn ein helpu i nodi tueddiadau a dyrannu cymorth.
- Mae gan bob grwp blwyddyn arweinydd cynnydd â chyfrifoldeb am fonitro ac olrhain pob plentyn yn y grwp blwyddyn, yna byddant yn cefnogi â sicrhau bod darpariaeth ar waith, e.e. ymyriadau.
- Er mwyn cefnogi dysgu gan blant, mae gennym anogwyr dysgu ar gael ar sesiynau ar amserlen.
- Mae gan yr ysgol sesiynau cefnogi astudio ar gyfer Blwyddyn 10/11, lle gallant gael sesiynau astudio preifat gydag aelod o staff i gefnogi eu hanghenion.
Estyn 2018
"Mae’r llysgenhadon iechyd meddwl yn chwarae rôl bwysig trwy’r ysgol i sicrhau lles meddyliol cadarnhaol i nifer sylweddol o ddisgyblion. Mae gan y llysgenhadon hyn ddealltwriaeth dda o sut i gefnogi eu cyfoedion a darparu canllawiau defnyddiol. Mae hyn yn helpu nifer o ddisgyblion i wneud dewisiadau deallus am gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn hyrwyddo eu lles meddyliol."
Cefnogaeth iechyd meddwl a lles
- Mae gan yr ysgol dîm lles sy’n gweithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Safonau, Iechyd a Lles.
- Mae dau aelod o staff yn yr ysgol wedi hyfforddi mewn Thrive ac fel Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol.
- Mae gan yr ysgol raglen diwtora lles a gaiff ei chynnal bob bore gyda’r athro dosbarth.
- Ar hyn o bryd, mae Blwyddyn 7 yn dysgu maes dysgu’r cwricwlwm Cymraeg newydd iechyd a lles, sy’n cynnwys maeth, ffitrwydd a lles cyffredinol.
- Caiff llysgenhadon iechyd meddwl eu penodi ar draws pob grwp blwyddyn i gynnig canllawiau a chefnogaeth i’w cyfoedion ar ôl cyfnod sefydlu a hyfforddiant.
- Mae Blwyddyn 8 yn dilyn rhaglen o’r enw The Arrow Project – caiff meysydd cefnogaeth sylweddol eu nodi, a chaiff ymyriadau eu rhoi ar waith i grwpiau ar draws y grwp blwyddyn. Caiff gweithdai eu harwain gan y seicolegydd addysg.
Mae'r rhain yn cynnwys:
o Deall emosiynau
o Datrys problemau mawr i wella cadernid
o Darparu cefnogaeth iechyd meddwl trwy sesiynau galw heibio
o Darparu’r rhaglen pum awgrym llesol
o Dilyn y cwricwlwm iechyd cwsg.
- Ar sail gwrando ar ddysgwyr, darparwyd rhagor o amser i adran Crefydd, Moeseg ac Athroniaeth yr ysgol i ganolbwyntio ar ddysgu am berthnasoedd llwyddiannus gyda theulu a ffrindiau a’u datblygu. Mae sicrhau cylchoedd cymdeithasol cyfoethog a chadarn yn helpu i gefnogi unigolion gyda’u hiechyd meddwl.
- Caiff Cyfarwyddwr Lles a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Lles eu dyrannu i bob grwp blwyddyn i gefnogi’r disgyblion ar lefel fugeiliol. Yn ogystal â hyn, mae tri Arweinydd Cynnydd i helpu i gefnogi’r disgyblion gyda’u perfformiad academaidd.
- Mae gan yr ysgol ddau Swyddog Cefnogi Bugeiliol sy’n helpu i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion. Gall disgyblion hunanatgyfeirio at y gefnogaeth gan Swyddogion Cefnogi Bugeiliol.
- Mae gan yr ysgol gefnogaeth cwnsela a chyngor helaeth i’n pobl ifanc a’r staff yn yr ysgol. Mae’r ysgol wedi bod yn gweithio gyda Mind Casnewydd hefyd i ddatblygu dull ysgol gyfan o drin iechyd meddwl, sy’n darparu cefnogaeth i ddisgyblion, staff a rhieni/gofalwyr.
Estyn 2018
"Mae’r ysgol yn olrhain ymwneud disgyblion diamddiffyn a’r rhai â nodweddion a ddiogelir yn agos yn ei gweithgareddau cymunedol a grwpiau disgyblion. Mae’n defnyddio’r wybodaeth hon yn effeithiol i annog ymwneud amrywiaeth o ddisgyblion i sicrhau bod pob grwp cynrychioladol o ddisgyblion yn adlewyrchu poblogaeth yr ysgol gyfan."
4. Sut mae Ysgol Bassaleg yn mesur effaith a llwyddiant y strategaethau a’r gefnogaeth?
Mae’n bwysig mesur effaith unrhyw ymyrraeth a chefnogaeth a gynigir oherwydd mae hyn yn arwain at newid a datblygiad yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau ar gyfer mesur yr effaith sydd bob amser yn seiliedig ar fesuriad cyn ac ar ôl yr ymyrraeth a’r gefnogaeth.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Defnyddio detholiad ar hap o ddisgyblion fel grwp ffocws i rannu safbwynt y disgyblion
- Arolygon Cyn ac Ar Ôl yr ymyrraeth a chefnogaeth
- Profi ac asesu Cyn ac Ar Ôl yr ymyrraeth a chefnogaeth
- Dadansoddiad o effaith a gaiff ei gynnal yn ystod teithiau cerdded lles ar amryw amseroedd o’r dydd
- Defnyddio data allanol fel y data yn arolwg Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i wneud cymariaethau dros amser.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Bassaleg – adnoddau lles.
Dyddiad cynhyrchu: Gorffennaf 2020