Nifer o blant Lluoedd Arfog yn Ysgol Plascrug: 4 (1%)
Astudiaeth achos wedi’i gwblhau gan: Meena Sweeny, Pennaeth a Mair Hopson, Prif Gynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (HLTA)
Pa heriau y mae plant Lluoedd Arfog yn ei wynebu yn Ysgol Plascrug?
- Adleoli rhiant a delio gyda’r emosiynau a ddaw yn sgil hynny pan fydd pobl sy’n caru ei gilydd yn cael eu gwahanu
- Delio gyda bod ar wahân pan fydd rhiant yn byw i ffwrdd ac yn aros yn yr orsaf y maen nhw’n gweithio yn ystod yr wythnos.
Estyn 2018
“Mae yna raglenni hynod fuddiol i gefnogi disgyblion diamddiffyn yn cynnwys y rheiny gydag anghenion emosiynol ychwanegol. Er enghraifft mae’r defnydd o raglenni iaith benodol a’r defnydd effeithiol o’r ystafell synhwyraidd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ddatblygu hunan-barch disgyblion.”
Sut y mae Ysgol Plascrug yn cefnogi anghenion plant Lluoedd Arfog, er mai grwp bychan iawn o blant sydd yna?
- Adnabod anghenion plant Lluoedd Arfog
- Strategaethau a chefnogaeth
- Mesur effaith
- Effaith strategaethau cefnogi
- Cynaliadwyedd
- Cyllid
- Ymgysylltu â’r gymuned Lluoedd Arfog
1. Sut y mae Ysgol Plascrug yn cydnabod anghenion plant Lluoedd Arfog?
- Rydym yn cydnabod eu hanghenion ar ôl eu cyfnod cynefino cychwynnol – beth yw’r bylchau yn y dysgu, neu’r estyniad sydd ei angen ar y dysgu?
- Mae athrawon yn cwblhau Proffil Boxall, sydd yn offer asesu i adnabod anghenion emosiynol penodol
- Mae clinig galw heibio i rieni ar gael yn ystod yr wythnos lle gall rhieni rannu unrhyw broblemau neu anghenion
- Mae rhieni newydd i’r ysgol yn llenwi holiadur ac mae cyfle i rannu gwybodaeth am eu plentyn
- Rydym yn dod i nabod y plant ym mhob agwedd o’u dysgu a’u lles fel rhan o arferion bob dydd yr ysgol
- Mae athrawon dosbarth yn cyflawni asesiadau o ddydd i ddydd ar y plant wrth ddysgu yn ddyddiol sydd yn tynnu sylw at yr angen am ymyrraeth a chefnogaeth, un ai yn y dosbarth neu mewn grwpiau bach/sesiynau un i un.
2. Pa strategaethau neu gefnogaeth sydd ar gael yn Ysgol Plascrug i gefnogi anghenion emosiynol eich plentyn?
- Mae Ysgol Plascrug yn ysgol sydd yn cynnal ‘Rights of the Child’ ac yn cefnogi plant i ddeall yr hawliau a’r gwerthoedd hyn ar draws yr ysgol trwy addysg y cwricwlwm
- Mae yna ethos o lesiant i’r ysgol gyfan wedi’i ddatblygu ar draws y cwricwlwm a’r egwyddorion dysgu ac addysgu
- Mae ymyraethau ar gael ar gyfer gwahanol feysydd dysgu i gyflymu’r cynnydd mewn Llythrennedd/Rhifedd
- Mae’r ysgol wedi datblygu ystod o strategaethau ac adnoddau cefnogi lles ar draws yr ysgol, yn cynnwys Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) a staff wedi’u hyfforddi mewn Anogaeth, gyda gofod penodol ar gyfer cymorth ELSA ac Anogaeth. Mae’r holl staff wedi’u hyfforddi yn ymwybodol o anghenion lles y plant ac yn defnyddio asesiadau i olrhain a monitro anghenion emosiynol y plant
- Mae cymorth Anogaeth ar gael tair gwaith yr wythnos. Mae canlyniadau’r proffil Boxall yn adnabod anghenion plant sy’n gysylltiedig â’u meysydd o ddatblygiad.
- Mae llyfrau ychwanegol ar gael sydd yn darparu cymorth emosiynol ac rydym yn defnyddio technoleg i allu cyfathrebu â’r rhiant yn ystod adleoli/bod ar wahân
- Mae gan yr ysgol amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu yn yr awyr agored sydd yn cefnogi anghenion lles y plant
- Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau yn gysylltiedig â’r gymuned leol, yn cynnwys ymweliadau â siop anifeiliaid anwes/caffi/siop DIY/archfarchnad, ehangu profiadau plant, deall a datblygu ymwybyddiaeth sefyllfaoedd gwahanol
- Mae’r ysgol yn ymwybodol o ba mor anodd ydyw i Luoedd Arfog dreulio amser gyda’i gilydd oherwydd eu ffordd o fyw ac maen nhw’n cymryd hyn i ystyriaeth wrth gyflwyno ‘caniatâd i fod yn absennol’.
- Rydym yn darparu cefnogaeth i rieni trwy sesiynau galw heibio rheolaidd gyda staff wedi’u hyfforddi.
Estyn 2018
“Mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd hawliau a gwerthoedd wedi’u harddangos gan eu gwybodaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Er enghraifft, maen nhw’n egluro mewn manylder i ymwelwyr yr effaith gafodd Yr Ail Ryfel Byd ar hawliau plant, a oedd wedi colli eu rhyddid yn ystod y brwydro.”
3. Sut y mae Ysgol Plascrug yn mesur effaith y gefnogaeth a’r strategaethau?
- Erbyn hyn mae plant Lluoedd Arfog yn cael eu hadnabod fel grwp sydd o bosib angen cymorth ar ryw gyfnod o’u haddysg a bod pob plentyn yn wahanol, rydym yn olrhain a monitro eu cynnydd
- Mae asesiadau yn cael eu cwblhau yn defnyddio’r Proffil Boxall, ac mae’r rhain wedi dangos gwelliannau yn lles emosiynol y plant ac wedi’i gadarnhau yn sgil trafodaethau gyda ac adborth gan rieni
- Mae plant yn mesur eu hemosiynau a sut y maen nhw’n teimlo cyn ac ar ôl sesiynau yn defnyddio siartiau
- Mae asesu ffurfiannol yn cael ei ddefnyddio trwy’r cwricwlwm dyddiol ac adborth athrawon/rhieni a’r plentyn
- Mae targedau dysgu ar gyfer pob plentyn gyda maes ffocws o anghenion a lles emosiynol, mae’r cynnydd tuag at y rhain yn cael ei fonitro a’i rannu gyda’r plant a’r rhieni.
Estyn 2018
“Mae gan yr ysgol systemau cynhwysfawr a chadarn i olrhain a monitro cyraeddiadau, cynnydd, ymddygiad a phresenoldeb disgyblion. Mae arweinwyr a staff yn defnyddio’r rhain yn effeithiol i adnabod anghenion penodol disgyblion o bob gallu a chefndir ieithyddol. Yna mae’r ysgol yn darparu’r disgyblion ag ystod eang o raglenni sydd yn cwrdd â’u hanghenion yn llwyddiannus.”
4. Sut y mae’r effaith o strategaethau cefnogi yn Ysgol Plascrug wedi cael ei ddosbarthu er mwyn rhannu arfer dda?
- Rydym yn Ysgol Arloesi sydd yn parhau i arwain ar fentrau a datblygiadau addysgu a dysgu, a’u rhannu ag ysgolion eraill ac maen nhw wedi cael eu cydnabod gan yr awdurdod lleol ac Estyn.
- Mae codi proffil lles emosiynol wedi cael effaith yn gyffredinol ar y ffordd y mae’r ysgol gyfan yn gweithio o ran iechyd meddwl a lles ac amlygwyd hynny gan Estyn yn 2018, rydym wedi parhau i gefnogi a datblygu’r maes hwn trwy ein cynllun strategol ar gyfer yr ysgol gyfan.
5. Sut y bydd Ysgol Plascrug yn sicrhau cymorth cynaliadwy i blant Lluoedd Arfog yn y dyfodol?
- Mae Anogaeth ac ELSA wedi datblygu ac esblygu ac yn parhau i gefnogi yr holl grwpiau o blant
- Bydd yr ysgol yn parhau i benodi Cynorthwyydd Cymorth Dysgu i gefnogi iechyd meddwl a lles gyda chefnogaeth y cyllid sydd ar gael
- Byddwn yn sicrhau fod hyfforddiant yn cael ei ddiweddaru fel y mae’r angen ar gyfer CCD a staff dysgu
- Bydd yr ysgol yn parhau i ddefnyddio’r adnoddau yn eu lle ac sydd ar gael ar draws yr holl grwpiau o ddysgwyr ac sydd ei angen gyda chefnogaeth yn cael ei adnabod yn cynnwys y cwt ELSA/Anogaeth a gafodd ei ariannu’n allanol
- Mae datblygu iechyd meddwl a lles yn parhau i fod yn ffocws ar gyfer yr ysgol gyfan, yn unol â gweithredu a disgwyliadau’r cwricwlwm newydd i Gymru
- Byddwn yn sicrhau fod y staff yn cael eu diweddaru gyda hyfforddiant a bod staff newydd yn deall y pwysigrwydd o gymorth i les a’r cwricwlwm yn ystod eu cyfnod cynefino â’r ysgol.
Estyn 2018
“Mae gofal, cefnogaeth ac arweiniad yr ysgol i ddisgyblion yn hyrwyddo eu lles yn eithriadol o dda ac yn sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd gwych i ffynnu yn eu datblygiad academaidd, cymdeithasol, moesol ac emosiynol. Mae staff yn nabod disgyblion yn eithriadol o dda ac yn rhoi amgylchedd o feithrin sydd yn datblygu eu hyder, hunan-barch ac agwedd bositif ac aeddfed at ddysgu. Mae yna bwyslais cyson ar ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o’u hawliau dynol, sydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu hagwedd ac ymddygiad teilwng.”
6. Ydi Ysgol Plascrug wedi cael mynediad i gefnogi anghenion plant Lluoedd Arfog?
Dyfyniad gan Y Lleng Brydeinig Frenhinol – Supporting Service Children in Wales - Best Practice Guide 2018
“Yn 2016 gwnaeth y Pennaeth, Menna Sweeney gais am gymorth i’r Gronfa Cymorth Addysg gan fod plant lluoedd arfog (dau deulu) yn yr ysgol. Roedd yr ysgol yn teimlo y dylai bod yna fwy o gymorth ar gael i’r teuluoedd hyn oedd yn delio gydag achosion a heriau unigryw. Trwy weithio gyda’r teuluoedd, dyma’r ysgol yn sylweddoli y byddai cynnig cefnogaeth gyda gofal ar ôl ysgol i blant o fudd i rieni yn arbennig lle’r oedd un rhiant wedi’i adleoli. Adnoddau newydd ar gyfer yr ystafell ddosbarth y gall plant Lluoedd Arfog a’u cyfoedion eu defnyddio yn cael eu gweld fel maes o flaenoriaeth hefyd. Mae’r ysgol wedi ymgynghori â’r cefnogwr Lluoedd Arfog lleol a’r bartneriaeth Cyfamod lleol i adeiladu cysylltiadau a dealltwriaeth o achosion lleol.
Diolch i gyllid Cronfa Cymorth Addysg yn 2016/17 fe lwyddodd yr ysgol i ddarparu clwb ar ôl ysgol newydd i gynnig gofal i blant Lluoedd Arfog a’u cyd-ddisgyblion, yn ogystal â’u darpariaeth arferol. Mae’r clwb ‘Aml sgiliau’ yn caniatáu i blant aros ymlaen ar ôl ysgol gan ddarparu gofal plant croesawgar i deuluoedd wrth ddysgu, chwarae a chael hwyl mewn amgylchedd diogel. Mae’r cyllid wedi cael ei ddefnyddio hefyd i ddarparu iPad fel bod Plant Lluoedd Arfog yn gallu rhannu eu gwaith gyda’r rhieni wedi’u hadleoli. Mae’r plant hefyd yn gallu gwneud fideoalwad pan mae’r rhiant i ffwrdd a oedd o fudd mawr i’r teulu cyfan.
Wedi prynu adnoddau ychwanegol fel llyfrau ac offer dysgu ac uned anogaeth yr ysgol – eto yn cael ei ddefnyddio gan blant Lluoedd Arfog a’u cyd-ddisgyblion – wedi cael ei ailwampio i ddarparu amgylchedd braf i ddysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth.”
7. Pa gysylltiadau sydd gan Ysgol Plascrug gyda’r gymuned leol a’r Lluoedd Arfog?
- Rydym wedi cyfathrebu a chreu cysylltiadau gydag ysgolion yn ardal Aberhonddu ac wedi gofyn am gyngor a chefnogaeth ar ôl adnabod bod gennym blant Lluoedd Arfog yn ein hysgol a’u hanghenion emosiynol posib
- Rydym yn rhannu canlyniadau mewn cynhadledd arfer dda yn yr awdurdod lleol
- Rydym yn mynychu cyfarfodydd Lluoedd Arfog lleol ac yn cyfathrebu gyda’r cefnogwr Lluoedd Arfog
- Sesiynau galw heibio i rieni a chysylltiadau gyda rhieni Lluoedd Arfog yn parhau
- Rhwydweithio gyda SSCE Cymru, defnyddio’r wefan, adnoddau a chefnogaeth sydd ar gael.
Enghreifftiau o effaith....
Mae’r ysgol wedi magu ymwybyddiaeth o sut y gall yr holl blant gefnogi ei gilydd, ac mae hynny wedi dod â phlant ynghyd sydd â heriau tebyg i’w gilydd ac sydd wedi cefnogi ei gilydd gyda’u teimladau h.y. plentyn Lluoedd Arfog yn cefnogi plentyn sydd ddim yn blentyn Lluoedd Arfog oedd yn galaru a’r plant yn siarad am absenoldeb rhiant ac yn gwneud cysylltiadau ac yn siarad am eu teimladau. Roedden nhw’n gefnogaeth wych i’w gilydd a gyda dealltwriaeth o sut mae’r llall yn teimlo, sefydlu cwlwm o ymddiriedaeth a mynd ymlaen i gyfansoddi cân gyda’i gilydd i fynegi eu teimladau
Plentyn Lluoedd Arfog oedd yn ei chael yn anodd yn emosiynol o fod ar wahân i’w riant wedi cael ei annog i fynychu clwb ar ôl ysgol; roedd yn ffordd o dynnu sylw o’r mater ac yn cynnig lle i’r plentyn deimlo’n gyfforddus i brosesu ei emosiynau.
Dyddiad creu’r ddogfen: Ionawr 2020