Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan:
Louise Edwards - Cydlynydd Lles (Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru, Powysell)
Caitlin Woodland – Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol – Plant Milwyr, Dwyrain Cymru (Cyngor Dinas Casnewydd ac SSCE Cymru)
"Roedd hi’n ddiwrnod pwysig iawn i mi"
Isabella, plentyn y lluoedd arfog, 4 mlwydd oed
"Roedd yn llawer o hwyl ac yn gyffrous i sôn wrth fy ffrindiau am dad a’r holl bethau mae o’n eu gwneud. Roeddwn i wrth fy modd yn dangos lluniau o fy nhad i’r dosbarth ar y sgrin fawr."
Dylan, plentyn y lluoedd arfog, 6 mlwydd oed
Pa weithgareddau a gynhaliwyd i ddathlu Mis Plant Milwrol?
Yn rhan o’r gweithgaredd a awgrymwyd gan SSCE Cymru ar gyfer Mis Plant Milwrol, cynhaliodd disgyblion Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru sawl gweithgaredd. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys:
- Defnyddiodd yr ysgol wefannau Little Troopers, y Lluoedd Arfog a SSCE Cymru i ddod o hyd i syniadau er mwyn gosod gweithgareddau yn y dosbarth.
- Gyda chefnogaeth gan y Cydlynydd Lles, fe greodd pob plentyn y lluoedd arfog gyflwyniad PowerPoint oedd yn tynnu sylw at rôl eu rhiant, eu profiad mewn ysgolion blaenorol, sut y gwnaethant symud i ffwrdd o’u ffrindiau, a’u hemosiynau wrth iddynt ddechrau mewn ysgol newydd. Roedd y cyflwyniadau yn cynnwys gwybodaeth a lluniau a gawsant gan eu rhieni.
- Cyflwynodd plant y lluoedd arfog eu PowerPoint i’w cyfoedion. Casglodd y dosbarth y cwestiynau a rannwyd gyda theuluoedd plant y lluoedd arfog ac yna eu hateb. Roedd hyn yn gyfle i ddisgyblion ddysgu a chael gwell dealltwriaeth am brofiadau plant y lluoedd arfog.
- Fe wisgodd yr ysgol gyfan rywbeth piws am y dydd. Cafodd y dosbarth a wisgodd y mwyaf o biws ddeg munud ychwanegol o amser chwarae.
- Dyluniodd ddosbarthiadau Cyfnod Allweddol 2 fathodynnau allai fod yn addas i blant y lluoedd arfog eu gwisgo. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddod o hyd i’r dyluniad buddugol.
- Defnyddiodd y cyfnod sylfaen eu sgiliau TGCh ac ymchwilio i greu ffeiliau ffeithiau. Fe wnaethant greu amrywiaeth o gerbydau wedi’u hysbrydoli gan y lluoedd arfog allan o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
- Fe greodd y dosbarth Meithrin a Derbyn fathodynnau piws gydag amrywiaeth o luniau, yn cynnwys y dant y llew hadog.
- Er mwyn rhannu’r wybodaeth am y gweithgareddau gyda disgyblion a theuluoedd, darparodd yr ysgol wybodaeth trwy gyfwng newyddlen yr ysgol, negeseuon Schoop a hysbysfyrddau yn y gymuned leol.
Beth oedd yr effaith?
Roedd y gweithgareddau yn gyfle i blant y lluoedd arfog rannu eu straeon ac integreiddio’n llawn yn yr ysgol wrth iddynt ymuno â’r ysgol yn ystod pandemig Covid. Fe gododd ymwybyddiaeth y staff a disgyblion o blant y lluoedd arfog a’r Luoedd Arfog, trwy ddarparu gwybodaeth am fywyd teulu’r lluoedd arfog, rôl y rhiant yn y lluoedd arfog a sut mae hynny’n effeithio ar blentyn y lluoedd arfog yn y teulu.
"Wrth i’r gweithgareddau gael eu cyflwyno gan blant y lluoedd arfog, roedd y cyfan trwy lygaid y plentyn felly yn ddealladwy ac yn hawdd uniaethu ag o. Roedd y gweithgareddau hwyliog yn ddiwrnod i’w fwynhau ac yn gofiadwy."
Louise Edwards, Cydlynydd Lles
Cafodd gweithgaredd yr ysgol ei gynnwys yn y papur lleol ‘Brecon and Radnor Express’, i hyrwyddo’r gefnogaeth ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog o fewn y gymuned leol.
Sut ydych chi wedi cael cefnogaeth i blant y lluoedd arfog er mwyn sicrhau buddion hirdymor?
Mae pob aelod staff wedi mynychu hyfforddiant CPD SSCE Cymru i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau ac anghenion plant y lluoedd arfog. Mae’r ysgol yn parhau i ddilyn awgrymiadau’r Swyddog Cyswllt Ysgol Rhanbarthol, ac yn siarad yn gyson i gael cyngor, rhannu syniadau a gweithredu rhagor o gefnogaeth i blant y lluoedd arfog. Mae’r ysgol hefyd wedi creu dangosfwrdd o weithgareddau i’w hatgoffa am weithgareddau a thestunau i gychwyn trafodaeth i ymwelwyr, staff a disgyblion.
"Fe brofodd y gweithgareddau Mis Plant Milwrol a gynhaliwyd yn Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru bod yr holl staff yn ymwybodol o’r hyn mae’n rhaid i’n plant fyw ag o weithiau, peidio gweld rhiant am fisoedd ar y tro a’r pryder sy’n cyd-fynd â hynny."
Mrs Loftus, Mam
"Roeddem ni’n teimlo anrhydedd pan ddewisodd Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru i gymryd rhan yng ngweithgareddau Mis Plant Milwrol. Roedd Ellie wrth ei bodd yn teimlo mor arbennig a chael cyfle i rannu cefndir milwrol ei thad a’i bywyd hi hyd yma gyda’i ffrindiau newydd. Nid yw’n rhywbeth y mae hi wedi cael cyfle i wneud o’r blaen felly rydym ni’n diolch i Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru am ein croesawu ni fel teulu milwrol gyda breichiau agored."
Mrs Young, Mam
- codi ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog a’r materion sy’n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
- gwella argaeledd gwybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
Rhestr wirio ysgolion SSCE Cymru, sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a awgrymir a ffyrdd o ddathlu profiadau plant y lluoedd arfog.
Dyddiad cynhyrchu: Mai 2021