Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan:
Michelle Thomas - Pennaeth (Ysgol Gymunedol Doc Penfro)
Jenny Cottrell - Athrawes Ddosbarth a Chefnogwr Plant y Lluoedd Arfog (Ysgol Gymunedol Doc Penfro)
“Rwy’n hoffi pob rhan o fod yn y grwp, mae’n fy ngwneud yn hapus ac rydw i’n edrych ymlaen ato.”
Plentyn y Lluoedd Arfog - Ysgol Gymunedol Doc Penfro
“Mae bod yn y grwp bach gyda nifer o wahanol weithgareddau yn rhoi hwb i mi ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato.”
Plentyn y Lluoedd Arfog - Ysgol Gymunedol Doc Penfro
Beth yw’r fenter Archwilwyr Bychain a pham mae’n cael ei gynnal?
Cafodd y fenter Archwilwyr Bychain ei weithredu i ddarparu gofod i blant y Lluoedd Arfog gwrdd â’u cyfoedion sydd mewn sefyllfa debyg iddyn nhw, er mwyn sefydlu rhwydwaith cefnogi cyfoedion (gydol oes gobeithio) ac i gynyddu grwpiau cyfeillgarwch ar draws y blynyddoedd.
Mae’r grwp yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd, megis Ysgol y Goedwig ac Arfordir, ymweliadau addysgol a sesiynau STEM.
Mae’n ffordd wych i blant y Lluoedd Arfog adeiladu perthnasau gyda staff. Erbyn hyn mae plant y Lluoedd Arfog yn deall y gallent fynd at oedolyn diogel sy’n eu hadnabod yn dda, pryd bynnag maent eisiau cefnogaeth, cyngor neu gysur.
Yn olaf, mae’n rhoi cyfle i’r plant ymlacio, cael hwyl a mwynhau!
Sut effaith mae wedi ei gael?
Mae prosiect Archwilwyr Bychain wedi rhoi nifer o fanteision i blant y Lluoedd Arfog, gan gynnwys:
- Datblygu eu sgiliau hunan-reoli
- Datblygu gwytnwch
- Synnwyr o gyflawniad
- Cynyddu cymhelliant a chanolbwyntio
- Gwella sgiliau datrys problemau
- Ehangu eu geirfa a sgiliau cyfathrebu
- Teimlo wedi’u grymuso ac ennill safbwyntiau newydd
- Adeiladu perthnasau cadarnhaol gydag oedolion a chyfoedion.
Mae’r holl fanteision hyn gyda’i gilydd yn cyfrannu tuag at gael gwell iechyd meddwl a lles cyffredinol.
O fewn y chwe mis cyntaf o’r plant yn mynychu’r grwp, mynegodd yr holl blant y Lluoedd Arfog, frwdfrydedd cryf i fynychu’r grwp, ac adroddodd pob un ohonynt fod y profiad yn un cadarnhaol.
“Mewn cyfnod byr o amser mae’r grwp wedi datblygu cydlyniant a synnwyr o berthyn. Mae cyfeillgarwch wedi cael ei sefydlu ar draws y grwpiau blwyddyn. Mae gan bron bob un o’r grwp frodyr neu chwiorydd sy’n mynychu gyda nhw, ac mae’r holl blant wedi dweud eu bod wrth eu boddau’n cael cyfle i rannu’r profiadau hyn gyda’i gilydd, oherwydd fel arfer ni fyddent gyda’i gilydd yn ystod y diwrnod ysgol.”
Jenny Cottrell, Cefnogwr Plant Lluoedd Arfog yr Ysgol
Sut fydd y cymorth yn cael ei gynnal ar gyfer plant y Lluoedd Arfog er mwyn sicrhau manteision hirdymor?
Mae staff yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro wedi ymrwymo i hyrwyddo llais y disgybl a gwrando ar blant y Lluoedd Arfog. Roedd llais y disgybl yn allweddol i ddatblygiad y prosiect hwn a bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol, fel bod gweithgareddau yn cael eu cynnal yn unol ag anghenion disgyblion.
Bydd staff hefyd yn parhau i ddarparu cyfleoedd i blant y Lluoedd Arfog ddod ynghyd mewn gofod diogel lle gallent siarad a rhannu eu pryderon.
Bydd yr ysgol yn parhau i weithio gydag SSCE Cymru i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau ac anghenion plant y Lluoedd Arfog. Bydd y staff hefyd yn chwilio am gyfleoedd i ddathlu cyswllt unigryw plant y Lluoedd Arfog gyda’r Lluoedd Arfog trwy gydol y flwyddyn ysgol.
Pa feysydd o Gyfamod y Lluoedd Arfog a gefnogwyd?
Codi ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog a’r materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
Rhestr wirio ysgolion SSCE Cymru, sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a ffyrdd i ddathlu profiadau eich plant y Lluoedd Arfog.
Dyddiad a gynhyrchwyd: Hydref 2023