Mae Ysgol Fabanod Mount Street wedi ei lleoli yn Aberhonddu, cartref y 160 Brigâd (Cymreig) a Phencadlys Cymru, barics hyfforddi’r Milwyr Traed ac yn agos i wersyll hyfforddi Pontsenni. Mae 50% o'r plant Milwyr yn Nepaliaid o ganlyniad i’r gatrawd Gurkha sydd wedi ei lleoli yn Aberhonddu. Mae tai y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi eu gwasgaru ar draws Aberhonddu; gall plant fod ar draws y gwahanol ardaloedd o ran tai ac weithiau ymhellach. Mae rhai teuluoedd Nepalaidd wedi penderfynu ymgartrefu yn Aberhonddu, yn dilyn trosglwyddo o'r Lluoedd Arfog.
Mae’r ysgol yn elwa o gyfleoedd i ddathlu'r diwylliant Nepalaidd, gan gynnwys Dashain a Tihar gyda dawnsfeydd Khukuri a gwisgoedd traddodiadol. Mae’r ysgol hefyd wedi bod yn llwyddiannus gyda nifer o grantiau cyllido i ddatblygu prosiectau awyr agored a phrosiectau y tu mewn ar draws yr ysgol i gefnogi plant Milwyr.
Y nifer o blant Milwyr yn Ysgol Fabanod Mount Street: 32 (22%)
Astudiaeth achos wedi ei gwblhau gan: Fiona Coombs, Dirprwy Bennaeth
Estyn 2020
“Mae gan y disgyblion ddealltwriaeth eithriadol o gydraddoldeb a thegwch. Er enghraifft mae bron i bob disgybl yn croesawu ac yn dod yn ffrindiau â’r holl ddisgyblion newydd sy’n ymuno yn ystod y flwyddyn, fel eu bod yn ymgartrefu ac yn integreiddio’n gyflym ac yn hapus i’w hysgol newydd. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu lefelau da iawn o wytnwch emosiynol, er enghraifft, drwy gadw cysylltiad gyda ffrindiau sydd wedi symud o Aberhonddu o ganlyniad i ymrwymiadau gwasanaeth milwrol eu teulu."
- Yr heriau sy’n wynebu plant Milwyr
- Yr heriau wrth gefnogi plant Milwyr
- Adnabod anghenion plant Milwyr
- Cefnogi strategaethau
- Cynnal cefnogaeth
- Cysylltiadau â’r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol.
1. Pa heriau mae plant Milwyr a’u teuluoedd yn eu hwynebu yn Ysgol Fabanod Mount Street?
- Rhiant yn cael ei leoli, gan achosi ymwahanu o fewn teulu
- Ymwybyddiaeth o riant yn cael ei leoli. Bydd rhieni yn rhoi gwybod i’r ysgol os bydd y rhiant sy’n gwasanaethu yn absennol am gyfnod estynedig ond ni hysbysir yr ysgol bob amser am absenoldebau byrrach.
- Mudo, lle mae plant Milwyr yn llifo i mewn ac allan o ysgol dros y flwyddyn ac yn aros tua dwy/dair blynedd
- Mae nifer o blant yn dysgu Cymraeg am y tro cyntaf
- Profiadau o wahanol feysydd llafur cyn dechrau yn yr ysgol, gydag amcanion dysgu a phynciau gwahanol
- Bylchau yng ngallu’r plant i fynd i’r afael â dysgu drwy ddefnyddio sgiliau datrys problemau.
- Gwahanu oddi wrth eu ffrindiau wrth symud ymlaen, gan effeithio ar y Plant Milwyr a'r plant nad ydynt yn blant Milwyr sy'n aros yn yr ysgol
Estyn 2020
“Mae’r gefnogaeth emosiynol a’r gefnogaeth yn ymwneud ag ymddygiad a gaiff ei darparu i ddisgyblion yn eithriadol ac yn adlewyrchu gwybodaeth y staff ynglyn ag anghenion dysgwyr unigol. Er enghraifft mae'r ddealltwriaeth a'r gefnogaeth i ddisgyblion sydd wedi ymuno â'r ysgol yn ddiweddar a sydd angen amser i ymgartrefu ac addasu i’r drefn arferol a'r disgwyliadau yn gryf iawn.”
2. Pa heriau mae Ysgol Fabanod Mount Street yn eu hwynebu o ran cefnogi plant Milwyr?
- Diffyg dogfennaeth drylwyr gan ysgolion blaenorol, yn arbennig os oes gan y plant Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Absenoldeb gwybodaeth o ysgolion blaenorol
- Yr angen i ymgartrefu mewn pryd i greu ffrindiau ac ymuno â chlybiau newydd
- Nid yw rhai cynlluniau i symud yn cael eu gwireddu; pan fo amser wedi ei dreulio yn paratoi’r plentyn Milwr i symud ysgol
- Fe all plant Milwyr adael heb rybudd o flaen llaw
- Y newid yn neinameg dosbarth/cohort wrth i blant adael a chyrraedd
- Rhieni yn manteisio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg
- Gorbryder gan y rhieni, ynglyn â’r maes llafur ysgol gwahanol, pan maent wedi dod o wlad wahanol.
Estyn 2020
“Mae’r ysgol yn darparu awyrgylch deuluol eithriadol o dawel a sy'n rhoi anogaeth ac amgylchedd cynhwysol fel bod bron pob disgybl eisiau dod i’r ysgol ac yn teimlo’n hapus a diogel yno."
3. Sut mae Ysgol Fabanod Mount Street yn adnabod ac yn monitro anghenion plant Milwyr?
Ar adeg mynediad i'r ysgol
- Caiff yr holl rieni sy’n dymuno ystyried ein hysgol ar gyfer eu plant eu hannog i ymweld â’r ysgol cyn i’r plant gael mynediad, gan ddarparu cyfle i ni i ddysgu am anghenion y plentyn a'r teulu
- Bydd ysgrifenyddes yr ysgol i ddechrau yn cynorthwyo gyda ‘chasglu gwybodaeth’ ar gyfer staff mynediad awdurdod lleol Powys ac ar gyfer gwybodaeth ysgolion, lle caiff plant Milwyr eu hadnabod.
Yn ystod eu hamser yn yr ysgol
- Bydd yr holl staff yn cysylltu yn agos gyda’r rhieni o fewn y mis cyntaf i sicrhau fod y plant yn ymgartrefu yn dda; fod unrhyw faterion yn cael eu trafod a’u datrys
- Rydym yn caniatáu amser ymgartrefu yn ystod yr wythnosau cyntaf, cyn unrhyw asesiadau ffurfiol
- Mae’r holl staff yn monitro lles emosiynol plant Milwyr ac yn cynnig cymorth.
- Mae’r ysgol yn defnyddio rhaglen ‘INCERTs’ gan olrhain data a chanlyniadau’r maes llafur, a gaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd dros y flwyddyn
- Fe wneir asesiad sylfaenol ar gyfer plant oed derbyn
- Fe wneir asesiadau ar ddiwedd Blwyddyn 1, gan gynnwys sillafu, darllen a mathemateg wedi’u safoni
- Fe wneir asesiadau ar ddiwedd Blwyddyn 2, gan gynnwys asesiadau athrawon/profion cenedlaethol
- Mae’r ysgol yn defnyddio asesiad dyddiol, parhaus drwy ddysgu a gweithgareddau dysgu o ansawdd uchel i asesu ac adolygu cynnydd plant. Mae hyn hefyd yn cynnwys y plant sy’n defnyddio hunanasesiad i gefnogi’r broses
Estyn 2020
“Mae nifer o ddisgyblion hyn yn ymgymryd â rolau arwain fel aelodau o’r ‘Criw Cymraeg’, y pwyllgor eco neu fel arweinwyr digidol. Maent yn deall eu rolau ac yn cefnogi’r ysgol yn rhagweithiol. Er enghraifft mae’r pwyllgor eco yn cynnal archwiliadau ac yn holi staff a disgyblion am eu defnydd o ynni."
4. Pa strategaethau a gweithgareddau cefnogi sydd ar gael yn Ysgol Fabanod Mount Street unwaith y caiff angen ei adnabod?
- Caiff grwpiau o ddysgwyr eu targedu gan athro/athrawes y dosbarth a'r Cynorthwywyr Cymorth Dysgu fel rhan o gyfleoedd dysgu dyddiol
- Mae cefnogaeth Nepalaidd ar gael ar draws yr ysgol gyda Chynorthwyydd Cymorth Dysgu - rydym yn asesu anghenion dysgu'r plant ac yn darparu ymyrraeth briodol
- Mae’r staff yn annog datblygu cyfeillgarwch
- Mae system gyfeillio mewn grym i gefnogi plant newydd wrth iddynt ymgartrefu
- Mae’r holl staff yn deall anghenion plant Milwyr ac yn cefnogi'r systemau ymgartrefu a symud ymlaen
- Caiff staff gyda chefndir yn y Lluoedd Arfog eu cyflogi ar draws yr ysgol, sy’n rhoi cymorth a dealltwriaeth ychwanegol
- Mae Mandir ar gael yn yr ysgol, sy’n fan addoli ar gyfer plant Nepalaidd
- Mae gan yr ysgol gysylltiadau gyda’r gymuned Gurkha i rannu digwyddiadau o’r diwylliant a dathliadau
- Mae plant Milwyr yn rhan o’r eco-gymuned lle maent yn cydweithio ac yn meithrin sgiliau arwain i gael effaith ar amgylchedd ysgol gynaliadwy a arweiniodd at yr ysgol yn ennill y wobr ysgol eco platinwm
5. Sut mae Ysgol Fabanod Mount Street yn sicrhau cefnogaeth gynaliadwy ar gyfer plant Milwyr a’u teuluoedd?
- Mae gan yr holl staff fynediad at hyfforddiant i gefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion ac mae staff allweddol yn gyfrifol am gydlynu'r gweithgareddau hyn
- Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn datblygu dull therapiwtig i helpu cefnogi plant gyda’u datblygiad emosiynol a chymdeithasol
- Mae’r Cydlynydd ADY yn datblygu’r ethos Thrive a chefnogaeth ar draws yr ysgol ac mae nawr wedi cymhwyso i ddarparu hyfforddiant ‘Thrive' i'r holl staff
- Mae Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol ar gael ar draws yr ysgol ar gyfer plant
- Mae cefnogaeth therapi chwarae a strategaethau mewn grym ar draws yr ysgol
- Mae’r hyfforddiant a’r strategaethau yn darparu cymorth ar gyfer y gymuned ysgol ehangach a grwpiau
- Mae’r uchod i gyd yn arwain at ddealltwriaeth barhaus, gyda staff allweddol yn cefnogi’r ysgol gyfan a hyfforddiant ar gyfer anghenion iechyd meddwl a lles.
Estyn 2020
“Mae arweinwyr yn fedrus yn y modd maent yn cael cyllid ychwanegol o amrediad o ffynonellau, sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth yr ysgol. Er enghraifft maent wedi cael cyllid gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer disgyblion o deuluoedd milwyr, yn arbennig y rhai o dras Nepalaidd, ac i greu ystafell ddosbarth awyr agored.”
6. Pa gysylltiadau sydd gan Ysgol Fabanod Mount Street â’r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol?
- Mae gennym gysylltiadau gyda’r ysgol fwydo ac rydym yn cynnal digwyddiadau ar y cyd
- Mae athro/athrawes yn cefnogi’r grwp plant bach sy’n cyfarfod yn ein hysgol ac yn arwain sesiwn ddysgu awyr agored yng nghoetir yr ysgol
- Mae gan yr ysgol gysylltiadau agos gyda’r ddarpariaeth cyn ysgol ac mae’n ymwybodol o deuluoedd Milwyr gan gefnogi anghenion penodol yn ôl y gofyn
- Mae ein llywodraethwyr Lluoedd Arfog yn mynychu ac yn cefnogi digwyddiadau arbennig ar draws yr ysgol
- Caiff staff eu gwahodd i ddigwyddiadau yn ymwneud â’r Lluoedd Arfog a dathliadau ym marics y Fyddin, gan gynnwys Dashain, y Nadolig ayb.
- Rydym yn cysylltu’n rheolaidd gyda Swyddog Lles y Barics a’r Nepaliaid
- Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf gyda’r Barics lleol i sicrhau ein bod yn ymwybodol o gynlluniau i symud, lleoli ayb.