Lleolir Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos 20 milltir o RAF Y Fali, y prif orsaf gyda personél sy’n gwasanaethu yn yr ardal. Yn ogystal mae uned Byddin llai, sydd â personél tri Gwasanaeth o fewn chwe milltir o’r ysgol. Mae’r mwyafrif o blant y personél y Lluoedd Arfog yn yr ysgol yn gwasanaethau ar hyn o bryd ac yn dod o amryw o Wasanaethau y Lluoedd Arfog. Rydym yn darparu bws mini o wahanol leoliadau i gefnogi plant gyda'u taith i'r ysgol ac adref.
Nifer o blant y Lluoedd Arfog ym Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos: 20 (16%)
Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan: Linda Wright (Dirprwyr Bennaeth)
- Yr heriau sy’n wynebu plant y Lluoedd Arfog
- Nodi anghenion plant y Lluoedd Arfog
- Cefnogi strategaethau
- Mesur effaith a llwyddiant
- Cysylltiadau â’r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol.
1. Pa heriau sy’n wynebu plant a theuluoedd y Lluoedd Arfog ym Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos?
- Bydd gan nifer o blant fylchau yn eu haddysg
- Ni fydd rhai plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cael eu hanghenion wedi’u cydnabod na’u cefnogi'n flaenorol.
- Nid yw cyrhaeddiad rhai plant ar draws y pynciau’r cwricwlwm yn gyson, oherwydd y bylchau yn eu sgiliau addysgu.
- Mae gan blant wahanol brofiadau o systemau addysg eraill a gall hyn gael effaith ar eu datblygiad e.e. Mae rhai teuluoedd wedi bod yn byw dramor a mae plant wedi cael eu haddysgu mewn gwledydd a systemau eraill.
- Gwahaniad o fewn teulu wedi’u heffeithio gan wahanol fathau o adleoliadau neu dra bod rhieni yn gweithio i ffwrdd am gyfnodau gwahanol o amser (ar benwythnosau).
2. Sut mae Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos yn adnabod a monitro anghenion plant y Lluoedd Arfog?
- Anogir teuluoedd i gyd i ymweld ymlaen llaw
- Cyflawnir rhaglenni o asesiadau ledled y cwricwlwm Mae hyn yn helpu’r athrawon i roi gwaelodlin i alluoedd y plant a gofynion Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn yr ysgol.
- Rydym yn cynnal cyfarfodydd Cynnydd Disgybl i adolygu canlyniadau addysgu.
- Rydym yn defnyddio ‘Incerts’ i leoli cynnydd ar draws pynciau’r cwricwlwm yn rheolaidd.
- Mae’r ysgol yn cymryd rhan yn y Profion Cymraeg Cenedlaethol sydd yn nodi a safoni sgoriau i blant
- Gan ddefnyddio targedau SMART a thargedau dosbarth, rydym yn cefnogi datblygiad plant.
- Mae rhieni yn rhan o addysg eu plant ac yn cael adborth ar eu cynnydd.
- Cynhelir cyfarfodydd cwricwlwm rheolaidd gyda’r rheini, fel eu bod yn ymwybodol o’r addysg a disgwyliadau ar gyfer eu plentyn.
3. Pa strategaethau a gweithgareddau cefnogi sydd ar gael ym Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos unwaith y caiff angen ei adnabod?
- Mae plant y Lluoedd Arfog yn cael eu hadnabod fel grwp o ddysgwyr ac mae eu cynnydd yn cael eu monitro’n agos.
- Mae cymhareb yr ysgol i oedolyn i bob plentyn yn uchel ym mhob dosbarth, gallwn ddarparu cefnogaeth grwp llai a chyfleoedd addysgu.
- Mae asesiadau a data yn cael eu monitro’n rheolaidd gan athrawon a thîm arweinyddiaeth.
- Mae’r ysgol yn defnyddio’r rhaglen Incerts i olrhain data a chanlyniadau cwricwlwm.
- Rydym yn adnabod plant sy’n tangyflawni ac yn gofyn y cwestiynau o ran y rhesymau dros hyn – mae strategaethau yn cael eu rhoi mewn lle i gefnogi datblygu meysydd heriol. Gall hyn fod yn gefnogaeth i bywyd gartref yn ogystal ag unrhyw gefnogaeth addysgol penodol yn y dosbarth.
- Gall yr ysgol helpu rhieni drefnu cefnogaeth ychwanegol i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy gael tiwtor.
- Rydym yn gefnogol i gymhwyso teuluoedd os ydynt angen amser teulu cyn/ ar ôl adleoliad.
4. Sut mae Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos yn mesur llwyddiant ac effaith cefnogaeth a strategaethau?
- Mae Inserts yn rhoi data rheolaidd i’r ysgol ar gyfer pob plentyn ar draws y cwricwlwm i fesur cynnydd a chyrhaeddiad.
- Dangosydd o effeithiolrwydd yr ysgol yw’r cyrhaeddiad lefel uchel yn y Profion Cenedlaethol bob blwyddyn.
- Mae hyder y plant yn adlewyrchu’r effeithiolrwydd o hunan-barch uchel gan ddefnyddio Athroniaeth 4 o edefyn cwricwlwm Plant
- Mae adborth rhieni yn gadarnhaol ac yn cefnogi’r effaith sydd gennym ar addysgu plant.
- Mae Holiaduron Rhieni/ Disgyblion yn cael eu defnyddio i adolygu effaith.
5. Pa gysylltiadau sydd gan Feithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos gyda'r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol?
Mae’r ysgol yn manteisio ar gyfleoedd i gynnwys bywyd y Lluoedd Arfog gyda chyfleoedd i ddysgu ar y cyd gyda gwirfoddolwyr Cymdeithas Cwn Chwilio ac Achub Cymru (SARDA) sydd yn cefnogi’r uned hyfforddi achub mynydd lleol, profiadau ymarferol gan rieni sydd yn RAF Y Fali, gan gynnwys; awyren yn hedfan dros yr ysgol ar eu llwybr/ ymarfer gan gynnwys trefnu i hofrennydd lanio ar y cae fel rhan o brofiadau dysgu, sesiynau dysgu efelychydd hedfan a hofrennydd yn yr orsaf, gwahoddiad i ddigwyddiadau arbennig yn yr orsaf Lluoedd Arfog lleol – ail-enwi awyren, gwasanaethau coffa a digwyddiadau diwrnodau hwyl. Mae’r ysgol yn gwahodd artistiaid ac ysgrifenwyr lleol i weithio gyda’r plant ar draws yr ysgol gyda gwahanol brosiectau, i wella cyfleoedd dysgu. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys:
- Presenoldeb yng nghyfarfodydd bwrdd plant a phobl ifanc RAF Y Fali i gefnogi’r rhwydwaith y Lluoedd Arfog lleol a datblygiadau’r ysgol.
- Cysylltu â Dean Clark, Swyddog Cefnogi Cymuned ac Ieuenctid, sydd yn Hyrwyddwr Y Lluoedd Arfog ar gyfer yr ardal.
- Cyswllt rheolaidd â phersonél allweddol ynghylch lwfansau/ cyllid
- Presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol lleol.
- Cyswllt gyda thiwtoriaid arbenigol ym Mhrifysgol Bangor sydd yn dod i gefnogi plant gyda dyslecsia, dyspracsia a dyscalcwlia. Rydym hefyd yn cael athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu hymarferion dysgu.
- Hoci Cymru – annog chwaraeon a ffordd o fyw iachus.
- Mae hyfforddiant tenis ar gael yn ystod tymor yr haf.
- Rydym yn cefnogi elusennau drwy ddigwyddiadau casglu arian a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.
- Rydym yn gweithio ochr yn ochr â John Egging Trust i ddatblygu gweithgareddau a chasglu arian
- Mae’r ysgol yn rhan o weithdai a gweithgareddau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), gan gynnwys peirianneg o RAF Y Fali a gweithgareddau adeiladu tîm.
- Cymryd rhan gyda Never Such Innocence, adnodd ar-lein sydd yn cefnogi a llawn gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion emosiynol a’r Lluoedd Arfog.
Negeseuon gan deuluoedd y Lluoedd Arfog
“Diolch am roi sylfaen gwych i’n plant a dechrau da i’w haddysg yn Nhreffos. Mae Treffos yn fwy nag ysgol i ni, a byddwn yn ei methu, ond yn cofio'n ôl o’r amseroedd hapus ac annwyl!
“Mae Treffos yn ysgol wych, yn ail gartref, llawn cariad, brwdfrydedd a hapusrwydd.”
“Mae gan y plant synnwyr o berthyn sydd yn amhrisiadwy.”
Dyddiad cynhyrchu: Gorffennaf 2020