TACHWEDD - Sesiynau galw heibio SSCE Cymru
1/11/2024
30/11/2024
Bob mis mae SSCE Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio anffurfiol un-awr yn canolbwyntio ar themâu penodol. Dewch draw i unrhyw un o'r sesiynau sydd o ddiddordeb i chi, lle bydd aelodau o dîm SSCE Cymru yn rhannu gwybodaeth berthnasol, yn hyrwyddo adnoddau, yn cydlynu trafodaethau, yn ateb eich cwestiynau ac yn creu cyfleoedd i gydweithio.
Gweler yr amserlen ar gyfer mis Tachwedd ac ymunwch â'r cyfarwyddiadau isod.
SYLWCH: os hoffech siarad yn Gymraeg yn ystod y sesiwn galw heibio, plîs cysylltwch â SSCECymru@wlga.gov.uk ymlaen llaw fel y gallwn sicrhau y gellir hwyluso hyn.
Themâu’r sesiynau galw heibio
Ysgolion sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru (AFFS)
Dan arweiniad Swyddogion Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru, bydd y sesiynau galw heibio hyn yn helpu ysgolion yng Nghymru i ddeall sut y gallant ddeall profiadau plant y Lluoedd Arfog, ymgysylltu â chymuned y Lluoedd Arfog ac ymgorffori cefnogaeth i blant milwyr drwy weithio tuag at gyflawni eich statws efydd, arian ac yna aur AFFS Cymru. Byddwn yn rhoi trosolwg o'r gofynion, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac yn ateb cwestiynau i'ch helpu i ddeall sut i weithredu eitemau ar y rhestr wirio.
Llais plant milwyr
Dan arweiniad Swyddog Arweiniol Cyfranogiad SSCE Cymru, bydd y sesiynau galw heibio hyn yn helpu ysgolion yng Nghymru i ddeall sut y gallant wrando ar blant milwyr er mwyn eu cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddwn yn eich helpu i ddeall pwysigrwydd gwrando'n weithredol ar eich blant Milwyr, rhannu enghreifftiau o arfer da, trafod cyfleoedd i lysgenhadon plant y Lluoedd Arfog a'ch cefnogi i sefydlu clwb Little Troopers (Cynradd) neu Glwb Bywyd y Lluoedd (Uwchradd).
Cyllid ar gyfer cefnogi plant Milwyr
Dan arweiniad Rheolwr Rhaglen SSCE Cymru, mae'r sesiynau galw heibio hyn ar gael i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru i gael mynediad at gyllid i gefnogi plant milwyr mewn addysg. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o ffrydiau ariannu grant perthnasol, yn rhannu enghreifftiau o arfer da, yn ateb cwestiynau, yn hyrwyddo adnoddau ac yn trafod cyfleoedd cydweithio.
Cynllun Gweithredu Awdurdodau Lleol
Dan arweiniad Swyddogion Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru, mae'r sesiynau galw heibio hyn ar gael i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i weithredu eu Cynllun Gweithredu Awdurdod Lleol (LA AP), a ddatblygwyd yn ystod cyfarfod grwp Partneriaeth Awdurdod Lleol y Weinyddiaeth Amddiffyn (LAP). Byddwn yn rhannu enghreifftiau o arfer da, yn ateb cwestiynau, ac yn trafod cyfleoedd cydweithio.
Pecyn Cymorth Bywydau Ffyniannus Cynghrair SCiP
Dan arweiniad Swyddogion Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru, mewn cydweithrediad â Rheolwr Ymgysylltu Cynghrair SCiP, bydd y sesiynau galw heibio hyn yn helpu ysgolion yng Nghymru i ddeall sut i ddefnyddio Pecyn Cymorth Bywydau Ffyniannus Cynghrair SCiP ac adnoddau eraill. Byddwn yn rhoi trosolwg o'r Pecyn Cymorth, yn rhannu enghreifftiau o arfer da, yn egluro sut mae'r Pecyn Cymorth yn cysylltu â statws Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru ac yn ateb cwestiynau i'ch helpu i ddeall sut i ddefnyddio'r adnoddau hyn.
Cofio
Dan arweiniad Swyddogion Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru, mae'r sesiynau galw heibio hyn ar gael ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru i ymuno â thrafodaethau am gymryd rhan mewn coffau. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am Gofio, codi ymwybyddiaeth o adnoddau i gefnogi gweithgareddau, awgrymu ffyrdd o ymgysylltu â chymuned eich Lluoedd Arfog a rhannu syniadau ar sut i goffáu yn y cyfnod cyn Diwrnod y Cofio ym mis Tachwedd.
Data
Dan arweiniad Swyddogion Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru, mae'r sesiynau galw heibio hyn ar gael i gefnogi ysgolion yng Nghymru i ddeall pwysigrwydd casglu data ar blant Milwyr. Byddwn yn darparu gwybodaeth am ddiffiniad plentyn y Lluoedd Arfog, yn rhannu enghreifftiau o arfer da o gasglu data, ateb cwestiynau ac yn egluro sut y gellir defnyddio adnoddau (gan gynnwys Offeryn 4 SSCE Cymru) i gasglu data yn eich lleoliad addysg.
Amserlen
Cyfarwyddiadau ymuno
I ymuno ag un o'r sesiynau galw heibio uchod, cliciwch ar y ddolen ar yr adeg y disgwylir i'r cyfarfod gael ei gynnal.
Neu, i ychwanegu'r sesiwn galw heibio i'ch calendr digidol, dilynwch y camau syml hyn:
1. Cliciwch ar y dde ar enw/amser y digwyddiad uchod yr hoffech chi fod yn bresennol
2. Cliciwch 'Copïwch y ddolen'
3. Agorwch eich calendr digidol (hy Microsoft Teams)
4. Trefnu apwyntiad newydd / cyfarfod newydd ar gyfer y dyddiad a'r amser y mae'r sesiwn galw heibio wedi'i threfnu
5. Rhowch teitl i’r apwyntiad / cyfarfod (e.e. "Sesiwn galw heibio SSCE Cymru AFFS Cymru")
6. Yn y prif gorff, cliciwch ar y dde a gludwch y cyswllt cyfarfod
7. Ar yr amser a drefnwyd, cliciwch y ddolen i ymuno â'r sesiwn galw heibio.
Anfonwch unrhyw ymholiadau at SSCECymru@wlga.gov.uk os gwelwch yn dda