This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyfnodolyn SSCE Cymru

Cynhadledd CLlLC 2023 ac Ymweliadau a Gogledd Cymru

Cynhadledd CLlLC 2023 ac Ymweliadau a Gogledd Cymru

Medi 2023

Yn ymuno a Millie, Rheolwr Rhaglen SSCE Cymru oedd Cara, Swyddog Cyswllt Ysgolion (Gogledd) a Jo, Swyddog Arweiniol Cyfranogiad (PLO) yng nghynhadledd CLlLC 2023 yn Llandudno, Gogledd Cymru.

Roedd yn ddigwyddiad llawn gwybodaeth, gyda llawer o stondinau diddorol a chyfle gwych i godi mwy o ymwybyddiaeth ar gyfer tim SSCE Cymru a sut yr ydym yn cefnogi ysgolion gyda phlant y lluoedd arfog ar draws Cymru.   

Roedd Cara a Jo hyd yn oed yn gallu gwasgu ambell i ymweliad ysgol i mewn. Dyma nhw’n croesawu aelodau staff o Ysgol Uwchradd Prestatyn ac Ysgol Glan Clwyd, mae'r dau yn gweithio tuag at statws Efydd Ysgol sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw ac i wobrwyo eu statws yn fuan.   

Diolch yn fawr unwaith eto i Dean o RAF Y Fali am drefnu ein ymweliad ac i staff personel yr RAF am ein helpu i brofi ein bwrdd terminoleg newydd.  

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan