Ariennir y rhaglen hon gan Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog (AFET), elusen sy’n gweithio i blant ac oedolion ifanc y mae eu haddysg yn cael ei gyfaddawdu neu ei roi mewn perygl o ganlyniad i wasanaeth eu rhieni i’r lluoedd arfog nawr neu yn y gorffennol.
Beth yw diben y cyllid?
Helpu i ddarparu cefnogaeth addysgol i ddisgyblion y lluoedd arfog. Mae cefnogaeth fel hyn yn debygol o gynnwys ymyrraeth addysgol benodol a fydd yn arwain at ddangos gwell canlyniadau addysgol i blant y lluoedd arfog.
SYLWER: Gall AFET hefyd helpu trwy roi grant i gynorthwyo plentyn unigol i fynd i’r afael ag anawsterau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth a symudoldeb eu rhieni.
Pwy sy'n gymwys?
Mae ceisiadau gan grwpiau / clystyrau o ysgolion yn cael eu hannog yn gryf.
Beth yw’r blaenoriaethau?
- Helpu i ariannu addysg plant sydd â’u rhieni yn y lluoedd arfog sydd wedi cael eu rhoi dan anfantais oherwydd gwasanaeth eu rhiant/rhieni.
- Sicrhau nad yw plant yn methu allan oherwydd gwasanaeth eu rhieni, beth bynnag fo’u hoedran, gallu neu reng eu rhieni neu eu gwasanaeth nawr neu yn y gorffennol.
- Darparu cyllid i ysgolion ar gyfer adnoddau ychwanegol i gefnogi addysg plant sydd â’u rhieni yn gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Dyddiad Cau Ceisiadau: Yn agored drwy’r flwyddyn.
Rhagor o wybodaeth yma