Mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn caiff y rhaglen hon ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef elusen sy’n cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog trwy ddarparu rhaglenni cyllid sy’n creu newid go iawn i gymunedau’r Lluoedd Arfog ledled y DU.
Beth yw diben y cyllid?
O dan y rhaglen hon, bydd yr Ymddiriedolaeth yn dyfarnu grantiau ar gyfer prosiectau ar wahân sy’n amrywio o £5,000 i £80,000 sy’n cefnogi Plant y Lluoedd Arfog ar hyd eu Llwybr Addysgol.
Mae’r rhaglen Cefnogi Disgyblion y Lluoedd Arfog wedi disodli Cronfa Cefnogi Addysg Y Weinyddiaeth Amddiffyn ers 2023.
Pwy sy'n gymwys?
- Ysgolion
- Lleoliadau Addysg Bellach
- Awdurdodau Lleol
SYLWER: Mae’r Ymddiriedolaeth yn annog ceisiadau gan glystyrau o ysgolion sydd â nifer fach o ddisgyblion y lluoedd arfog yn ogystal â cheisiadau gan ysgolion unigol sydd â mwy na 40% o ddisgyblion y lluoedd arfog.
Beth yw’r blaenoriaethau?
- Cau’r bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion y Lluoedd Arfog a disgyblion eraill, gan ddefnyddio tystiolaeth a arweinir gan ddata
- Mynd i’r afael ag anghenion disgyblion y lluoedd arfog ag anghenion ychwanegol trwy nodi’n gynnar ac ymyrryd yn defnyddio dull cydweithredol a chydlynol
- Nodi a mynd i’r afael ag anghenion cohortiau bach o ddisgyblion y lluoedd arfog mewn lleoliadau addysg.
Dyddiad cau ceisiadau: 5pm 31 Mai 2023.
Rhagor o wybodaeth yma