Ers i’r rhaglen ddechrau yn 2014, mae SSCE Cymru wedi gweithio gydag ysgolion, plant a phobl ifanc, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, gweithwyr addysg proffesiynol, teuluoedd y Lluoedd Arfog a sefydliadau cefnogi i gasglu eu safbwyntiau a’u profiadau, i adeiladu rhwydweithiau ar draws Cymru ac i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brofiadau plant personél y Lluoedd Arfog. Mae SSCE Cymru wedi datblygu arweiniad ac adnoddau digidol ar gyfer ysgolion a theuluoedd, wedi cynnal cynadleddau a diwrnodau rhanddeiliaid ac wedi comisiynu ymchwil er mwyn deall yn well anghenion plant y Lluoedd Arfog mewn addysg.
Taflen SSCE Cymru
Poster SSCE Cymru