Mae therapi seiliedig ar LEGO® yn ymyriad sgiliau cymdeithasol cydweithredol wedi’i seilio ar chwarae ar gyfer plant sydd ag awtistiaeth ac anhwylderau tebyg. Mae’n ceisio meithrin cymhwysedd cymdeithasol drwy ddatblygu sgiliau cymdeithasol. Mae chwarae cydweithredol yn cynnig cyfleoedd i blant ymarfer sgiliau fel cymryd eu tro, gwrando, rhannu syniadau, cyfathrebu, cyfaddawdu, datrys problemau a rhannu sylw. Mae’r grwpiau’n cael eu rhedeg gan hwylusydd hyfforddedig ac mae plant yn cael eu hannog i gydadeiladu o fewn rolau penodedig. Bydd pob plentyn yn chwarae rhan “peiriannydd”, “cyflenwr” neu “adeiladwr” a gyda’i gilydd byddant yn dilyn cyfarwyddiadau darluniadol er mwyn adeiladu model.
Mae therapi seiliedig ar LEGO® yn cymell plant i ryngweithio â’i gilydd drwy chwarae cydweithredol â theganau adeiladu, sef deunyddiau sydd yn aml yn ennyn brwdfrydedd mewn plant sydd ag awtistiaeth ac anhwylderau cysylltiedig. Bydd plant yn cael eu hysgogi i gymryd rhan yn yr ymyriad grwp am eu bod yn ymddiddori mewn adeiladu, ac felly byddant yn fwy parod i gydweithio fel grwp. Mae’r sylw y mae’r plant yn ei roi ar y cyd i’r adeiladu yn eu galluogi i ddysgu ac arfer sgiliau cymdeithasol mewn amgylchedd cymdeithasol sy’n gyfforddus iddynt.
Nod masnach grwp cwmnïau LEGO® yw LEGO® ac nid yw’n noddi nac yn cymeradwyo’r wybodaeth hon.