Mae adnoddau Llwyddo’n cynorthwyo plant ysgolion uwchradd i gyflawni cymhwyster BTEC Lefel 1 neu 2 mewn Twf Personol a Lles. Mae ein hadnoddau yn cael eu mapio yn erbyn MDPh Iechyd a Lles a Chwricwlwm newydd ACRh yng Nghymru, a’r cwricwlwm ABGI newydd yn Lloegr. Mae ein hadnoddau yn berffaith ar gyfer ysgolion sydd eisiau hyrwyddo iechyd meddwl a lles, ac eisiau addysgu myfyrwyr i fod yn oedolion ifanc hapusach, iachach ac yn fwy llwyddiannus.
Mae adnoddau Llwyddo’n dod mewn pecynnau o wyth llyfr gwaith, a bydd angen un o’r rhain ar gyfer pob disgybl. Er bod yr adnoddau yn cynorthwyo dysgwyr i gyflawni cymhwyster BTEC, nid oes yn rhaid eu defnyddio gyda rhai 14-16 oed yn unig. Mae nifer o’n canolfannau’n defnyddio llyfrau Llwyddo o flwyddyn 7 i gynorthwyo dysgwyr i ddechrau ar eu teithiau iechyd meddwl a lles a dysgu sut i ymdopi â heriau mawr bywyd. Mae gennym ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd, colegau, unedau cyfeirio disgyblion a sawl lleoliad addysgol arall.
Mae wyth llyfryn i gyd, yn ymdrin ag iechyd rhyw, emosiynol a chorfforol, ynghyd â sgiliau cymdeithasol, hunaniaeth bersonol, ymwybyddiaeth amgylcheddol, cyllid a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Yn ogystal â’r adnoddau, ar ôl cofrestru gyda ni, byddwch yn derbyn yr holl ddeunydd ategol i’ch cynorthwyo i gyflwyno’r cymhwyster. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth barhaus gan eich gwiriwr Llwyddo, cynlluniau asesu, elfennau cychwynnol a llawn, cyflwyniadau PowerPoint, mapiau sgiliau a chynlluniau marcio manwl.
Mae adnoddau Llwyddo ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Maent hefyd ar gael fel gwerslyfrau papur neu gellir cael mynediad atynt ar-lein drwy ein llwyfan ddigidol newydd!
Adnoddau perthnasol: