LLEOLI: ymgysylltu gydag Unedau, briffio staff, creu gwybodaeth bwrpasol, rheoli Fforwm y Llynges a'r Cyfryngau Cymdeithasol, ymgysylltu trwy weithgareddau, i ddarparu cefnogaeth bersonol mewn cyfnod o argyfwng, darperir ar gyfer pob math o angen. I ofyn am Becyn Gwybodaeth Lleoli neu Flwch Atgofion Plentyn e-bostiwch rnrm-wio@royalnavymail.mod.uk
GWYBODAETH: Mae gwybodaeth gefnogol ar gael yn ôl yr angen ac mae’n ddefnyddiol wrth adleoli, wrth edrych am wasanaeth penodol neu os oes gennych chi gwestiwn na allwch ddod o hyd i'r ateb ar ei gyfer. Drwy ymchwil rheolaidd rydym yn sicrhau fod gwybodaeth gyfredol a pherthnasol ar gael i bawb. Ebostiwch rnrm-wio@royalnavymail.mod.uk
CYFATHREBU: darparu gwybodaeth ddigidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Ymgysylltu Teuluol. www.royalnavy.mod.uk/forums; www.facebook.com/RoyalNavyFPS
CYMUNED: darparu gweithgareddau a digwyddiadau i ddiwallu anghenion Cymuned y Llynges ar-lein a wyneb yn wyneb.
TOSTURIO: Mae yna adegau pan allwch fod angen gwasanaeth mwy arbenigol i roi cefnogaeth i chi yn ystod argyfwng neu sefyllfa bersonol.
Mae ein staff gwaith achos yn cynnig arweiniad a chefnogaeth, sydd un ai yn gefnogaeth ymarferol neu emosiynol, ac fe fyddant yn siarad ar eich rhan yn uniongyrchol neu mewn cysylltiad ag asiantaethau eraill.
Ffoniwch Borth Cymorth i Deuluoedd a Phobl y Llynges ar 0800 145 6088