Yng Nghymru, mae Tîm Adfer Cymunedol Help for Heroes yn darparu cymorth holistig i gyn-filwyr a phersonél y Lluoedd Arfog y mae eu gwaith milwrol wedi effeithio arnynt. Mae’r tîm arbenigol yn cynnig cyngor a gweithgareddau wedi’u teilwra at unigolion clwyfedig, wedi’u hanafu ac yn wael, ar bob cam o’u siwrnai adferiad. Mae’n teithio ar draws Cymru i sicrhau bod ei wasanaethau ar gael o fewn y gymuned yn y pwynt o angen.
Mae Help for Heroes yng Nghymru yn darparu cefnogaeth ar gyfer cyn filwyr a wasanaethodd yn Lluoedd Arfog Prydain, ac unrhyw un a wasanaethodd ynghyd â’r fyddin, gan gynnwys eu teuluoedd a gofalwyr.
Mae timoedd cymunedol yn helpu pobl gydag ystod eang o faterion, sy’n cynnwys heriau corfforol ac iechyd meddwl, pryderon arian neu dai, dod o hyd i gyflogaeth neu hawlio budd-daliadau. Hefyd mae rhaglen o weithgareddau chwaraeon a chymdeithasol ar draws y DU ac ar-lein. Rydym hefyd wedi uno â Kooth i ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl ar-lein ar gyfer pobl ifanc 11 - 18 oed.
Darganfyddwch fwy am ddigwyddiadau chwaraeon a chymdeithasol:
helpforheroes.org.uk/get-help/sports-social-activities
https://www.helpforheroes.org.uk/get-help/sports-social-activities/
Find out more about Kooth mental health support for 11-18 year olds:
https://www.kooth.com/helpforheroes/
W: Helpforheroes.org.uk
T: 0300 303 9888
Ebost: GetSupport@helpforheroes.org.uk