Ychydig funudau o RAF y Fali, mae Ysgol y Tywyn yn ysgol cyfrwng Cymraeg, dwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae plant o orsaf RAF a’r gymuned leol yn mynychu'r ysgol. Mae RAF y Fali wedi ei gategoreiddio fel lleoliad/safle ynysig. Mae RAF y Fali yn orsaf hyfforddiant ar gyfer peilotiaid ymladd, felly gall fod llai o benodiadau ac mae symudiad teuluoedd wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Mae teuluoedd yn cael eu hanfon yma yn raddol (ychydig ar y tro). Mae rhai teuluoedd cyn aelodau o’r lluoedd arfog wedi penderfynu setlo yn yr ardal ac mae'r plant yn mynychu'r ysgol. Mae plant o deuluoedd y Lluoedd Arfog yn dod a chyfoeth o brofiadau a chefndiroedd i’n hysgol, gan gynnwys y gwahanol leoedd maent wedi byw, gwledydd maent wedi teithio iddynt a'r ffordd o fyw o fewn teulu Lluoedd Arfog.
Rydym yn gweld symud yn rheolaidd, pan fo teuluoedd yn cael eu hanfon i mewn ac allan o’r orsaf. Yn aml bydd y plant yn cael eu gwahanu o’u rhiant sy’n gwasanaethu, pan mae’n rhaid iddynt weithio i ffwrdd, mynychu hyfforddiant neu fynd ar daith weithredol. Gall plant a theuluoedd newydd deimlo bod dysgu Cymraeg yn her, yn ogystal â symud o wledydd gwahanol a dysgu mewn fframwaith cwricwlwm newydd. E.e. Symud o'r Alban a Lloegr.
Nifer y plant Gwasanaeth yn Ysgol y Tywyn: 19 (16%)
Astudiaeth achos a gwblhawyd gan: Emyr Williams (Pennaeth) a phlant Ysgol y Tywyn, (Ynys Môn)
Estyn 2019
“Mae bron i bob disgybl â dealltwriaeth dda o fanteision bod yn ddwyieithog ac yn gweld y Gymraeg fel iaith fyw a defnyddiol."
- Adnabod anghenion plant Gwasanaeth
- Cefnogaeth i blant ar ôl eu hadnabod
- Cefnogi teuluoedd i fod yn ddwyieithog
- Cysylltiadau gyda’r gymuned leol a’r Lluoedd Arfog
1. Sut mae Ysgol Y Tywyn yn adnabod anghenion plant Gwasanaeth pan gyrhaeddant?
- Rydym yn sicrhau bod gan yr holl staff ymwybyddiaeth o anghenion a phrofiadau plant Gwasanaeth
- Mae plant newydd yn cael eu hasesu yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn yr ysgol ar draws y pynciau craidd
- Rydym i gyd yn ymwybodol o’u hanghenion emosiynol posib a'r gefnogaeth y gallant fod ei hangen pe bai rhiant yn cael eu hadleoli neu dreulio amser i ffwrdd o'r teulu ac mae'r anghenion hyn yn cael eu monitro yn rheolaidd.
- Rydym yn cysylltu â’r ysgol flaenorol i gael gwybodaeth ac adborth ar y plentyn e.e. llyfrau ysgol, dysgu blaenorol a chefnogaeth ddysgu flaenorol.
Estyn 2019
“Mae athrawon yn asesu sgiliau disgyblion yn bwrpasol pan gyrhaeddant yr ysgol. Mae systemau defnyddiol i fonitro a thracio cyflawniad a lles disgyblion wrth iddynt symud trwy'r ysgol. Mae’r rhain yn cefnogi disgyblion i adnabod a thargedu cefnogaeth bwrpasol i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.”
2. Pa gefnogaeth mae Ysgol Y Tywyn yn ei darparu i blant Gwasanaeth yn dilyn adnabod angen?
- Rydym yn darparu Cymhorthydd Cefnogi Dysgu ym mhob dosbarth, mae’r gymhareb oedolyn i blentyn yn uchel, gan alluogi cefnogaeth i unrhyw blentyn sydd ei angen
- Mae gan bob dosbarth grwpiau targed i ganolbwyntio ar anghenion grwp ac unigol ar draws bob maes dysgu ac mae gan unigolion dargedau penodol i’w cyflawni ac mae'r rhain yn cael eu rhannu gyda rhieni
- Gall plant sydd ag anghenion emosiynol a lles gael cefnogaeth cymhorthydd cefnogi Llythrennedd Emosiynol, a allai fod mewn grwp neu 1:1
- Mae staff yn cael eu hyfforddi ar ymwybyddiaeth trawma, gall trawma gael ei achosi am amrywiaeth o resymau ac mae’r staff yn barod i gefnogi anghenion unrhyw blentyn
- Dilynir hyfforddiant ffynnu i gefnogi anghenion emosiynol a lles plant.
3. Pa gefnogaeth mae Ysgol Y Tywyn yn ei darparu i deuluoedd fod yn ddwyieithog. Sut mae eich ysgol yn annog safbwynt cadarnhaol ynghylch y cwricwlwm Cymraeg, diwylliant a'r Gymraeg gyda'u teuluoedd Gwasanaeth.
- Darperir cefnogaeth a chyngor yn ystod y cyfnod sefydlu a setlo yn yr ysgol
- Mae plant yn y meithrin a’r Cyfnod Sylfaen yn cael eu trochi yn y Gymraeg ar draws y cwricwlwm o'r cychwyn, mae plant yng nghyfnod allweddol 2 yn datblygu eu harbenigedd dwyieithog a'r defnydd o'r Gymraeg ar draws bob maes dysgu
- Mae amgylchedd/arddangosfeydd yr ysgol yn y Gymraeg/Saesneg
- Mae’r ysgol yn hybu agwedd gadarnhaol tuag at y Gymraeg a dwyieithrwydd, mae teuluoedd yn cael eu hannog i wneud yr un fath o fewn y gymuned ac yn y cartref.
- Mae’r ysgol yn rhannu perfformiadau o fewn y gymuned leol yn y Gymraeg
- Mae’r ysgol yn defnyddio’r ardal/gymuned leol i ddatblygu dysgu ar draws y cwricwlwm yn y Gymraeg
- Cynhelir gwersi Cymraeg i deuluoedd ar ôl ysgol i gefnogi’r symudiad ac anghenion dwyieithrwydd. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae Lefel Un wedi ei gwblhau yn 2019, maent bellach yn cwblhau Lefel Dau. Mae'r ysgol yn cynnal mwy o wersi Cymraeg i ddechreuwyr ar Lefel Un i deuluoedd newydd eleni. Yn flaenorol ariannwyd y rhain gan SSCEWF ac oherwydd ei lwyddiant, bu'n parhau trwy gyllideb yr ysgol.
- Mae Datblygu Cymunedol mewn lle, i ddod a theuluoedd ledled y gymuned leol a’r gymuned Gwasanaeth ynghyd, mae integreiddio yn strategaeth allweddol i’r ysgol.
- Mae amrywiaeth o lyfrau darllen ar gael yn ysgol, ffuglen a ffeithiol yn y Gymraeg.
- Rydym wedi recordio athro yn darllen yr holl lyfrau Cymraeg ac rydym wedi nodi’r cod QR ar gefn bob llyfr gyda’r recordiad, mae hyn yn helpu rhieni i ddeall sut i ynganu’r holl eiriau Cymraeg.
- Mae gwybodaeth cyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Estyn 2019
“Mae ymateb yr ysgol i sefydlu’r fframwaith digidol a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws yr ysgol yn gadarn."
4. Pa gysylltiadau sydd gan Ysgol Y Tywyn gyda’r gymuned leol a’r Lluoedd Arfog?
- Rydym yn agos at RAF y Fali, felly mae gennym fynediad rhwydd at gyfleusterau megis y gampfa, y swyddfa dywydd a’r maes awyr
- Mae gennym gysylltiadau agos gyda’r Swyddog Cyswllt Cymunedol ac Ieuenctid, sy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad
- Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau yn yr orsaf e.e. Gwasanaeth ymadawyr, gwasanaeth carolau, Diwrnod Budd-Ddeiliad SSCE Cymru
- Mae Ymwelwyr yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd, gan gynnwys: Uned a chwn yr heddlu, peilotiaid, tîm achub ac maent yn rhannu eu profiadau gyda'r plant a'r staff
- Mae arweinwyr yn mynychu Cyfarfodydd Bwrdd plant a Phobl Ifanc a chynhelir cyfarfodydd Lluoedd Arfog yn yr orsaf.
Estyn 2019
“Mae Ymwelwyr yn cynnwys artistiaid lleol, gweinidog o’r lluoedd arfog a pheilotiaid o’r llu awyr. Enghraifft nodedig o hyn yw'r ymweliad gan un o'r arwyr a achubodd plant ifanc o ogof yng Ngwlad Tai. Mae hyn yn hybu’r disgyblion i ysgrifennu yn feddylgar ac yn eu hannog i deimlo empathi tuag at eraill."
Cyngor i ysgolion ei rannu gyda rhieni
- Trwy ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, byddwch yn rhoi sgil bywyd ychwanegol i’ch plentyn, y gallu i gyfathrebu mewn dwy iaith, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dylid bob amser edrych o amgylch yr ysgol cyn cychwyn a gofyn pa gefnogaeth a chyngor sydd ar gael i'ch plentyn
- Dechreuwch ddysgu rhywfaint o frawddegau Cymraeg syml gan ddefnyddio’r adnoddau ar-lein a restrir yn yr astudiaeth achos hon.
- Defnyddiwch rywfaint o frawddegau/gwrthrychau Cymraeg yn y cartref - dysgwch frawddeg/gwrthrych newydd bob dydd fel teulu
- Defnyddiwch y Gymraeg pan rydych yn eich cymuned leol
- Ymunwch â dosbarth Cymraeg i oedolion yn yr ysgol neu’n lleol. Nid oes angen i chi allu siarad Cymraeg i fynychu, mae croeso cynnes bob amser i bawb, a bydd y sesiynau hefyd yn eich helpu i gynyddu eich hyder i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’ch plentyn
- Gofynnwch i’ch athro dosbarth pa fath o frawddegau fyddant yn dechrau eu dysgu yn y dosbarth a sut gallwch helpu
- Defnyddiwch y ffilmiau Cymraeg a wnaed gan ein plant Gwasanaeth i ddysgu brawddegau a rhifau Cymraeg a chanu pen-blwydd hapus.
Gwefannau defnyddiol i gefnogi dysgu Cymraeg
Dyddiad cynhyrchu: Rhagfyr 2019