CHWEFROR - Sesiynau galw heibio SSCE Cymru
1/02/2025
28/02/2025
Bob mis mae SSCE Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio anffurfiol un-awr yn canolbwyntio ar themâu penodol. Dewch draw i unrhyw un o'r sesiynau sydd o ddiddordeb i chi, lle bydd aelodau o dîm SSCE Cymru yn rhannu gwybodaeth berthnasol, yn hyrwyddo adnoddau, yn cydlynu trafodaethau, yn ateb eich cwestiynau ac yn creu cyfleoedd i gydweithio.
Gweler yr amserlen ar gyfer mis Chwefror ac ymunwch â'r cyfarwyddiadau isod.
SYLWCH: os hoffech siarad yn Gymraeg yn ystod y sesiwn galw heibio, plîs cysylltwch â SSCECymru@wlga.gov.uk ymlaen llaw fel y gallwn sicrhau y gellir hwyluso hyn.
Themâu’r sesiynau galw heibio
Ysgolion sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru (AFFS)
Dan arweiniad Swyddogion Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru, bydd y sesiynau galw heibio hyn yn helpu ysgolion yng Nghymru i ddeall sut y gallant ddeall profiadau plant y Lluoedd Arfog, ymgysylltu â chymuned y Lluoedd Arfog ac ymgorffori cefnogaeth i blant milwyr drwy weithio tuag at gyflawni eich statws efydd, arian ac yna aur AFFS Cymru. Byddwn yn rhoi trosolwg o'r gofynion, yn rhannu enghreifftiau o arfer da ac yn ateb cwestiynau i'ch helpu i ddeall sut i weithredu eitemau ar y rhestr wirio.
Llais plant milwyr
Dan arweiniad Swyddog Arweiniol Cyfranogiad SSCE Cymru, bydd y sesiynau galw heibio hyn yn helpu ysgolion yng Nghymru i ddeall sut y gallant wrando ar blant milwyr er mwyn eu cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddwn yn eich helpu i ddeall pwysigrwydd gwrando'n weithredol ar eich blant Milwyr, rhannu enghreifftiau o arfer da, trafod cyfleoedd i lysgenhadon plant y Lluoedd Arfog a'ch cefnogi i sefydlu clwb Little Troopers (Cynradd) neu Glwb Bywyd y Lluoedd (Uwchradd).
Cyllid ar gyfer cefnogi plant Milwyr
Dan arweiniad Rheolwr Rhaglen SSCE Cymru, mae'r sesiynau galw heibio hyn ar gael i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru i gael mynediad at gyllid i gefnogi plant milwyr mewn addysg. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o ffrydiau ariannu grant perthnasol, yn rhannu enghreifftiau o arfer da, yn ateb cwestiynau, yn hyrwyddo adnoddau ac yn trafod cyfleoedd cydweithio.
Pecyn Cymorth Bywydau Ffyniannus Cynghrair SCiP
Dan arweiniad Swyddogion Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru, mewn cydweithrediad â Rheolwr Ymgysylltu Cynghrair SCiP, bydd y sesiynau galw heibio hyn yn helpu ysgolion yng Nghymru i ddeall sut i ddefnyddio Pecyn Cymorth Bywydau Ffyniannus Cynghrair SCiP ac adnoddau eraill. Byddwn yn rhoi trosolwg o'r Pecyn Cymorth, yn rhannu enghreifftiau o arfer da, yn egluro sut mae'r Pecyn Cymorth yn cysylltu â statws Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru ac yn ateb cwestiynau i'ch helpu i ddeall sut i ddefnyddio'r adnoddau hyn.
Cynllun Gweithredu Awdurdodau Lleol
Dan arweiniad Swyddogion Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru, mae'r sesiynau galw heibio hyn ar gael i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i weithredu eu Cynllun Gweithredu Awdurdod Lleol (LA AP), a ddatblygwyd yn ystod cyfarfod grwp Partneriaeth Awdurdod Lleol y Weinyddiaeth Amddiffyn (LAP). Byddwn yn rhannu enghreifftiau o arfer da, yn ateb cwestiynau, ac yn trafod cyfleoedd cydweithio.
Mis y Plentyn Milwrol
Dan arweiniad Swyddogion Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru, mae'r sesiynau galw heibio hyn ar gael i ysgolion, awdurdodau lleol ac aelodau eraill o'r rhwydwaith ymuno â thrafodaethau ynghylch pam ei bod yn bwysig dathlu plant milwyr yn ystod #MotMC. Byddwn yn rhannu rhai enghreifftiau o arfer da ac yn eich helpu i ddeall sut y gallwch gymryd rhan drwy gydol mis Ebrill.
Amserle
Cyfarwyddiadau ymuno
I ymuno ag un o'r sesiynau galw heibio uchod, cliciwch ar y ddolen ar yr adeg y disgwylir i'r cyfarfod gael ei gynnal.
Neu, i ychwanegu'r sesiwn galw heibio i'ch calendr digidol, dilynwch y camau syml hyn:
1. Cliciwch ar y dde ar enw/amser y digwyddiad uchod yr hoffech chi fod yn bresennol
2. Cliciwch 'Copïwch y ddolen'
3. Agorwch eich calendr digidol (hy Microsoft Teams)
4. Trefnu apwyntiad newydd / cyfarfod newydd ar gyfer y dyddiad a'r amser y mae'r sesiwn galw heibio wedi'i threfnu
5. Rhowch teitl i’r apwyntiad / cyfarfod (e.e. "Sesiwn galw heibio SSCE Cymru AFFS Cymru")
6. Yn y prif gorff, cliciwch ar y dde a gludwch y cyswllt cyfarfod
7. Ar yr amser a drefnwyd, cliciwch y ddolen i ymuno â'r sesiwn galw heibio.
Anfonwch unrhyw ymholiadau at SSCECymru@wlga.gov.uk os gwelwch yn dda